G锚m B锚l-droed Elusennol i godi arian at Movember
Bydd staff o Brifysgol 黑料不打烊 yn cystadlu mewn g锚m b锚l-droed elusennol i helpu i godi arian tuag at Movember, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth ynghylch canser y brostad, canser y ceilliau ac iechyd meddwl, a chodi arian hanfodol at hynny.
Bydd staff o ganolfan chwaraeon y Brifysgol yn cystadlu yn erbyn t卯m o staff diogelwch ddydd Sul 24 Tachwedd yng nghae astro Maes Glas. Bydd y g锚m yn dechrau am 11.00 o鈥檙 gloch ac mae croeso cynnes i bawb ddod i gefnogi'r timau.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden: "Mae Maes Glas yn hapus iawn i gynnal y g锚m rhwng ein staff a'r t卯m diogelwch. Er ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd yn ystod y dydd, rwy'n si诺r unwaith y bydd chwiban y dyfarnwr yn cael ei chwythu bydd y ddau d卯m yn awyddus iawn i ymladd am fuddugoliaeth. Rwy'n si诺r y bydd t卯m Maes Glas yn sicrhau y bydd eu henw da fel cartref chwaraeon ar y campws yn cael ei gadarnhau, a hyn i gyd tuag at achos da."
Mae'r ddau d卯m yn ddiolchgar iawn i gwmni nwyddau hyrwyddo Sional, Llanfairfechan, am roi eu dillad iddynt.
Yn ystod mis Tachwedd bob blwyddyn, mae Movember yn gyfrifol am gael miliynau o ddynion ledled y byd i dyfu mwstas. Mae鈥檙 elusen yn herio dynion i dyfu mwstas am 30 diwrnod mis Tachwedd, a thrwy hynny newid eu golwg a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd dynion. Mae'r ymgyrch hefyd yn ysbrydoli llawer i godi arian trwy amryw o weithgareddau llawn hwyl ar draws y wlad .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013