Generation Beth yn datgelu cenhedlaeth sy鈥檔 gwerthfawrogi eu pleidlais ac yn teimlo鈥檔 Ewropeaidd
Mae S4C yn galw ar Gymry ifanc i rannu eu profiadau fel rhan o broject rhyngweithiol Ewropeaidd. Gwahoddir y darlithydd Dr Cynog Prys a myfyriwr doethuriaeth Sh芒n Pritchard, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, i drafod a dadansoddi canfyddiadau鈥檙 project sydd 芒 phartneriaid mewn 12 o wledydd Ewropeaidd.
Mae鈥檙 project arloesol hwn, sef 鈥樷 yn esblygiad o arolwg hynod o lwyddiannus a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2013 a elwir yn 鈥楪eneration Quoi鈥. Y tro hwn, mae 12 o wledydd, gan gynnwys Cymru wedi ymuno 芒 Ffrainc i greu digwyddiad gwirioneddol Ewropeaidd. Mae'r project yng Nghymru yn cael ei arwain gan S4C a'r cwmni cynhyrchu Cwmni Da.
Ers 2014 mae鈥檙 fyfyrwraig Sh芒n Pritchard wedi cael cyfle i weithio gyda Cwmni Da, wrth barhau gyda鈥檌 astudiaethau academaidd fel rhan o ysgoloriaeth KESS. Roedd y bartneriaeth wreiddiol yn 2014 mor llwyddiannus nes bod yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a Cwmni Da yn awyddus i barhau gyda鈥檙 trefniant am ddwy flynedd arall. Rhoddodd hyn y cyfle i Sh芒n a鈥檌 goruchwyliwr Dr Cynog Prys i gynorthwyo ar nifer o brojectau cyffrous, a鈥檙 project diweddaraf yw 鈥楪eneration Beth.鈥
Prif amcan y project yw llunio portread gonest o鈥檙 genhedlaeth sydd rhwng 18 a 34 mlwydd oed. Mae鈥檙 project hwn yn brosiect aml-blatfform, sydd 芒 nifer o briodweddau a haenau amrywiol yn perthyn iddo. Y brif elfen yw holiadur ar-lein sy'n holi yngl欧n 芒 phob math o bynciau difyr, o wleidyddiaeth a mewnfudo i gyffuriau a rhyw - ni ellir gwadu n ei fod yn holiadur trwyadl!
Yn deillio o鈥檙 bartneriaeth gyffrous hon, gwahoddwyd Dr Cynog Prys a Sh芒n i rannu eu harbenigedd drwy ddadansoddi a thrafod y canfyddiadau. Gwneir hyn mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys ysgrifennu cyfres o erthyglau byrion, sydd i鈥檞 gweld ar wefan 鈥楪eneration Beth鈥.
Yn 么l Dr Cynog Prys:
鈥淢ae o鈥檔 wych cael gweithio unwaith eto gyda Cwmni Da a S4C. Mae鈥檙 project yma yn un hynod gyffrous ac yn cynnwys partneriaid mewn 12 o wledydd Ewropeaidd. Mae bron i 550,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y project ledled Ewrop felly mae maint y data a gasglwyd yn sylweddol iawn. Mae鈥檙 project yma yn rhoi cyfle gwych i ni gael mewnwelediad i sut mae poblogaeth Cymru, ac Ewrop, yn gweld y byd o鈥檜 hamgylch. Rydym yn byw drwy gyfnod o ansicrwydd a newid cymdeithasol mawr yn Ewrop, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y data a gasglwyd hyd yn hyn鈥.
Dywed Sh芒n:
鈥淢ae Ysgoloriaeth KESS wedi darparu llu o gyfleoedd gwych i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae cael cyd-weithio gyda chwmni nodedig fel Cwmni Da ar nifer o brojectau cyffrous wedi bod yn fraint. Yr hyn sy鈥檔 arbennig am 鈥楪eneration Beth鈥 yw pa mor gynhwysfawr 芒 chwbl unigryw yw鈥檙 project. Dwi鈥檔 hynod o falch fod S4C a Cwmni Da wedi sicrhau fod cynrychiolaeth o Gymru, sydd wedi ein galluogi i ni fel cenedl i gyfranogi yn y project arloesol hwn.鈥
Mae鈥檙 project hwn eisoes wedi ei lansio yng Nghymru, ac er bod y sampl yn gymharol fach ar hyn o bryd, mae鈥檔 cynnig cyfle cychwynnol i ni edrych ar rai o鈥檙 canfyddiadau mwyaf diddorol hyd yn hyn.
Ni ellir osgoi ei bod yn gyfnod etholiadau yma yng Nghymru, ac mae canfyddiadau鈥檙 holiadur yn amlygu gwerth a phwysigrwydd democratiaeth i drigolion Cymru. Dywed 80% o gyfranogwyr rhwng 18 a 34 na allent fod yn hapus heb y cyfle i bleidleisio. Mae鈥檙 ganran hon yn sylweddol iawn, ac mewn cyfnod o ansicrwydd yn deillio o鈥檙 hinsawdd economaidd bresennol, sy鈥檔 dynodi cyfnod o doriadau a chaledi, mae鈥檔 ymddangos bod pleidleisio yn nodwedd hollbwysig i鈥檙 mwyafrif o 鈥楳illenials鈥 Cymru. Wrth gymharu atebion Cymru i鈥檙 cwestiwn hwn gyda rhai o wledydd eraill ar draws Ewrop, ymddangosir mai Cymru sydd ag un o鈥檙 canrannau uchaf o ymatebwyr sy鈥檔 nodi na allent fyw heb bleidlais, yn dilyn Bwlgaria a Groeg.
Mae鈥檙 refferendwm ar aelodaeth Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn cael ei gynnal yn ystod yr haf. O ganlyniad, mae鈥檙 cwestiynau o fewn yr arolwg sy鈥檔 canolbwyntio ar le Cymru o fewn Ewrop yn hynod o amserol.
Gwelwn o鈥檙 data hyd yn hyn fod 53% o gyfranogwyr o Gymru yn nodi eu bod yn teimlo鈥檔 Ewropeaidd, tra bod 47% yn nodi nad ydynt. Mae鈥檔 bosib dehongli felly nad oes consensws clir yngl欧n 芒 hunaniaeth Ewropeaidd y bobl a holwyd. Ond beth felly am yr Undeb Ewropeaidd ei hun? Mae鈥檙 ffigyrau o Gymru yn glir iawn, gyda 66% yn anghytuno y dylid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nododd 25% eu bod yn cytuno a gadael yr undeb, gyda 9% yn dweud nad oes ots ganddynt. Awgryma鈥檙 data felly nad yw diffyg hunaniaeth Ewropeaidd o reidrwydd yn golygu bod pobl am adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae鈥檔 bosib bod ffactorau eraill ar waith, er enghraifft, ffactorau economaidd. Ai diwedd y g芒n fydd y geiniog?
Yn ogystal 芒鈥檙 holiadur, bydd S4C yn dangos cyfres o bedair rhaglen ddogfen sydd yn portreadu pobl ifanc o鈥檙 holl wledydd sy鈥檔 cyfranogi. Bydd y rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu ar 13Mai ar S4C. Yn eu plith mae cynrychiolaeth o Gymru, sef y gantores Efa Thomas o Gricieth, sydd o bosib yn fwy adnabyddus fel 鈥楨fa Supertramp鈥.
Dywed Phil Stead, Cyfarwyddwr Digidol Cwmni Da:
鈥淢ae鈥檙 Ysgoloriaeth KESS wedi ein galluogi ni i alw ar arbenigaeth Sh芒n a Cynog ym maes cymdeithaseg ac mae鈥檙 bartneriaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae mewnbwn y ddau ar brojectau mawr aml-blatfform fel 鈥楧yma Fi鈥 a 鈥楪eneration Beth鈥 wedi bod yn amhrisiadwy.鈥
Mae modd i bawb dros 16 mlwydd oed fod yn rhan o鈥檙 prosiect drwy gwblhau鈥檙 holiadur ar-lein. Cofiwch hefyd am y clipiau fideo ble mae鈥檔 bosib clywed cyfranogwyr yn ymateb a thrafod y cwestiynau.
Ewch draw i鈥檙 wefan i gymryd rhan -
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016