Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i Eira
Eira WinrowMae Eira Winrow, 38, sydd yn wreiddiol o Gaergybi, newydd raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth gyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.
Dywedodd Eira, sydd yn fam brysur i ddau o blant ifanc: "Mae graddio yn deimlad anhygoel! Mae鈥檙 tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd ond pleserus iawn ac rwyf ar goll yn barod heb ddim i鈥檞 astudio . Fedrai ddim disgwyl i ddechrau fy ngradd Meistr ym mis Medi.
Ychwanegodd: "Ar 么l gadael ysgol, roedd fy ng诺r a minnau鈥檔 gweithio yn rhedeg tai bwyta a thafarndai llwyddiannus yn Blackpool cyn symud yn 么l i Fangor yn 2004. Roeddwn i'n mwynhau'r swydd am flynyddoedd ond ar 么l genedigaeth fy ail blentyn dechreuais feddwl am newid cyfeiriad ac felly fe adewais fy swydd ac fe wnaeth fy ng诺r ddechrau rhedeg yr Antelope ym Mangor.
"Wrth astudio gyda'r Brifysgol Agored, fe wnes i sylweddoli fy mod yn gwir fwynhau dysgu mwy am y Gwyddorau Cymdeithas ac fe benderfynais wneud cais i astudio am radd Polisi Gofal Cymdeithasol / Iechyd a Chymdeithasol ym Mangor ac roeddwn wrth fy modd pan ges i gynnig lle. Mae'r gweddill yn hen hanes!
"Dewisais Fangor oherwydd, fel myfyriwr h欧n gyda theulu ifanc, roedd mor gyfleus ac mae gan Brifysgol 黑料不打烊 enw da. Roeddwn yn gweithio pan allwn i ac roeddwn yn ffodus iawn fy mod yn gallu dewis fy oriau yn yr Antelope! Roedd bod yn fam hefyd yn fy nghadw'n brysur iawn; ceisio cadw cydbwysedd rhwng bywyd cartref a鈥檙 astudio oedd yr her fwyaf.
Ychwanegodd Eira: "Mae'r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn anhygoel; mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys cael A + am fy nhraethawd hir, A * am un o fy nhraethodau arholiad terfynol a phasio bob blwyddyn gyda graddau dosbarth cyntaf - pan fyddaf yn penderfynu gwneud rhywbeth rwyf yn trio fy ngorau glas!
"Rwy'n si诺r mai astudio fel myfyriwr h欧n oedd y ffordd orau i mi gan nad wyf yn credu fy mod yn barod i astudio ar y lefel hon pan oeddwn yn 17 oed.
"Roedd fy mhlant yn 4 ac 1 oed pan ddechreuais fy ngradd, felly roedd cael cydbwysedd rhwng astudio a magu plant yn anodd. Roeddwn yn teimlo鈥檔 euog ar aml i achlysur pan oeddwn yn aros yn hwyr yn y llyfrgell neu鈥檔 methu mynd allan gyda'r teulu ar benwythnos. Ond yn y pen draw, roeddwn yn trin astudio fel swydd - os na fuaswn wedi troi at astudio byddwn yn sicr o fod wedi gweithio鈥檔 llawn-amser.
Am y dyfodol, dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau gradd Meistr (Ymchwil Polisi Cymdeithasol a Gwerthuso) ym mis Medi, ac fe hoffwn ddilyn gyrfa academaidd ac ymchwil ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Byddaf yn siarad gyda fy narlithwyr am gyfleoedd PhD cyn gynted ag y gallaf! "
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013