Gradd Gyntaf a Gwobr i Llio
Bydd myfyrwraig o Brifysgol 黑料不打烊 yn dathlu鈥檙 wythnos hon drwy raddio gyda gradd dosbarth cyntaf a hefyd ennill gwobr am ei gwaith caled.
Llio Hughes
Bydd Llio Mai Hughes, 21, o Fryngwran, Ynys M么n yn graddio鈥檙 wythnos hon gyda BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yn ogystal 芒 derbyn gwobr Syr John Morris Jones. Sefydlwyd y wobr dros ddeugain mlynedd yn 么l ac fe鈥檌 dyfernir i'r myfyriwr/myfyrwyr a gafodd y canlyniadau gorau yn eu harholiadau gradd.
Meddai Llio: 鈥淢ae graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn fraint ac mae鈥檔 braf cael canlyniad mor dda yn dilyn yr holl waith caled. Dwi wir wedi mwyhau鈥檙 tair blynedd diwethaf ym Mangor ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at ddod yn 么l fis Medi i barhau 芒鈥檓 hastudiaethau.
鈥淐efais fy addysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yno y dechreuais feddwl o ddifrif am ysgrifennu creadigol. Astudiais y Gymraeg fel pwnc Lefel A ynghyd 芒 Thechnoleg Gwybodaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Enillais y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod M么n 2010 a rhoddodd hynny鈥檙 hyder i mi benderfynu dilyn cwrs Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol.
鈥淒ewisais astudio ym Mhrifysgol 黑料不打烊 oherwydd roedd y cwrs yn fy siwtio i鈥檙 dim ac yn cynnig llawer o amrywiaeth. Mynychais un o鈥檙 diwrnodau agored ac roedd y darlithwyr yn hynod gyfeillgar. Roeddwn yn teimlo鈥檔 gartrefol iawn yno ac yn gwybod mai Prifysgol 黑料不打烊 oedd yr un i mi!
鈥淩oeddwn yn aelod o UMCB a鈥檙 Gymdeithas Ddrama Gymraeg. Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg 黑料不打烊 yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn creu cyfleoedd gwych i gyfarfod ffrindiau newydd a chymdeithasu, fel Aelwyd JMJ. Ni fyddai fy mhrofiad yn y Brifysgol wedi bod cystal heb UMCB. Fe ailsefydlwyd y Gymdeithas Ddrama Gymraeg eleni, ac rwyf wedi mwyhau bod yn rhan o鈥檙 broses. Bu鈥檔 ddiddorol ymchwilio i hanes y gymdeithas ac roedd y gweithdai drama鈥檔 llawn hwyl. Roedd hi鈥檔 gymdeithas hynod boblogaidd yn ei dydd, ac rwy鈥檔 gobeithio y bydd yn ffynnu unwaith eto.
Bydd Llio yn dychwelyd i鈥檙 Brifysgol ym mis Medi i ddilyn cwrs MA Ysgrifennu Creadigol, wedyn mae鈥檔 bwriadu mynd ymlaen i wneud cwrs TAR Uwchradd er mwyn bod yn athrawes Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013