Gradd plismona newydd gan Brifysgol 黑料不打烊 a Gr诺p Llandrillo Menai yn dechrau yn 2019/20
O fis Medi 2019, bydd Prifysgol 黑料不打烊, mewn partneriaeth 芒 Gr诺p Llandrillo Menai (GLlM), yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol sydd wedi ei thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd hyn yn cyflwyno sgiliau i'r myfyrwyr y byddant eu hangen i weithio fel swyddogion heddlu ac mae'n adeiladu ar y Radd Sylfaen lwyddiannus iawn mewn Plismona a fu鈥檔 cael ei chynnig ers rhai blynyddoedd gan GLlM.
Meddai Maggie Griffiths, Pennaeth Cynorthwyol Gr诺p Llandrillo Menai: 鈥淢ae'r bartneriaeth newydd hon wedi galluogi'r ddau sefydliad i ddatblygu'r radd newydd gyffrous hon i israddedigion, gan gyfuno sgiliau plismona academaidd ac ymarferol helaeth staff y ddau sefydliad.
鈥淢ae'r rhaglen wedi'i chynllunio i ddiwallu anghenion ymgeiswyr sy'n byw yn ardal Gogledd Cymru a thu hwnt, ac i roi gwybodaeth, sgiliau a phrofiad cadarn i'r rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa fel swyddogion heddlu.鈥
Meddai'r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊: 鈥淢ae'r radd BSc mewn Plismona Proffesiynol yn adeiladu ar ein cryfderau mewn ymchwil i blismona a throseddeg a chyfiawnder troseddol, a chefnogir hynny gan arbenigedd Gr诺p Llandrillo Menai mewn plismona ymarferol.
鈥淩ydym yn edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2019, ac rydym yn arbennig o falch o fod yn ychwanegu rhaglen israddedig addawol arall i'r portffolio o raddau yr ydym yn eu darparu ar y cyd.鈥
Mae'r hyfforddiant a roddir i'r heddlu yn newid ar draws Cymru a Lloegr o ganlyniad i raglen newydd sydd wedi ei sefydlu gan y Coleg Plismona a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Mae'r newid hwn yn cael ei gyflawni'n rhannol trwy gyflwyno Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona, sy'n rhoi'r sgiliau priodol i recriwtiaid newydd yr heddlu i addasu i gymhlethdod proffesiynol plismona modern gan gynnwys natur newidiol troseddu a'r galwadau sydd ar wasanaethau'r heddlu.
Mae'r radd hon yn agored i bawb a gall myfyrwyr sydd 芒 diddordeb mewn ymgeisio ganfod rhagor o wybodaeth yma. Mae'n bwysig nodi nad yw'r radd hon yn gwarantu y caiff rhywun ei recriwtio i'r gwasanaeth heddlu a chynghorir y rhai sydd 芒 bwriad o ddilyn gyrfa gyda'r heddlu i wirio'r meini prawf cymhwystra y mae gwasanaethau heddlu unigol yn eu nodi.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2019