Graddedigion Prifysgol 黑料不打烊 yn uchel eu parch ymysg prif gyflogwyr
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn ymddangos ymysg y o ran cynhyrchu鈥檙 graddedigion gorau yn 么l arolwg rhyngwladol a gyhoeddwyd gan gylchgrawn y Times Higher.
Datgelodd yr arolwg, a ganolbwyntiodd yn bennaf ar fusnesau a chwmn茂au technoleg gwybodaeth a pheirianneg, pa brifysgolion yw鈥檙 rhai mwyaf poblogaidd ac uchel eu parch o ran darparu myfyrwyr o safon uchel i鈥檞 recriwtio.
Yn 么l yr arolwg, mae recriwtiaid yn y DU yn chwilio am sgiliau, profiad proffesiynol ac arbenigaeth mewn pwnc gradd sydd yn berthnasol i鈥檞 sectorau penodol. Dewisir myfyrwyr hefyd ar sail enw da鈥檙 brifysgol y maent wedi graddio ohoni. Roedd cyflogwyr Prydeinig hefyd yn rhoi mwy o bwyslais na chyflogwyr Ewropeaidd ar safon graddau ac roeddent hefyd yn fwy tebygol o recriwtio graddedigion o brifysgolion yr oedd ganddynt eisoes gysylltiad 芒 hwy.
鈥淢ae hon yn wybodaeth o bwys ac i鈥檞 chroesawu gan ein myfyrwyr a darpar raddedigion,鈥 meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol.
鈥淩ydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar gyflogadwyedd ein myfyrwyr. Rydym yn darparu cyfleoedd ac anogaeth iddynt ennill sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad ar gyfer eu darpar yrfaoedd. Ynghyd 芒 safonau rhagorol addysgu a boddhad myfyrwyr yn y brifysgol, mae gwybod hefyd bod y brifysgol yn uchel ei pharch ymysg prif gyflogwyr sy鈥檔 recriwtio graddedigion yn newyddion arbennig o dda.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015