Gwaith ar hanes hinsawdd y m么r yn ennill medal bwysig
Dr Paul ButlerDyfarnwyd Medal bwysig Lewis Penny i鈥檙 Dr Paul Butler o Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion gan y Quaternary Research Association am ei ymchwil ar hanes yr hinsawdd forol. Mae鈥檙 wobr yn cydnabod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i鈥檔 dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a鈥檙 amgylchedd yn y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf.
Mae鈥檙 datganiad sy鈥檔 argymell bod Paul yn derbyn y Fedal yn cydnabod ei fod yn ddewis eithriadol ac anarferol; eithriadol o ran ei alluoedd, ei effaith a鈥檌 swyddogaeth ganolog ym maes sglerocronoleg molwsgiaid, maes sy鈥檔 datblygu鈥檔 gyflym; anarferol oherwydd, ac yntau bellach yn 57 oed, mae ei yrfa ymchwil wedi datblygu mewn cwta naw mlynedd ar 么l i ddychwelyd i鈥檙 byd academaidd yn 2001 wedi gyrfa fel ymgynghorydd cyfrifiaduron yn Llundain. Dilynodd Paul gwrs israddedig yng ngwyddorau鈥檙 eigion yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn 2004. Dyfarnwyd iddo Efrydiaeth Cemlyn Jones i wneud ymchwil ar hanes yr hinsawdd forol ym m么r Iwerddon. Cwblhaodd ei PhD yn 2009, a bellach mae鈥檔 Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, wedi ei noddi fel rhan o Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W).
Mae maes ymchwil Paul (sglerocronoleg neu astudio'r cylchoedd tyfiant ar gregyn) yn cyfateb i ymchwil ar gylchoedd coed. Ar lawer o gregyn creaduriaid m么r gwelir bandiau twf blynyddol amlwg y mae eu patrymau dros amser yn gyffredin i鈥檙 holl greaduriaid yn yr un ardal, sy鈥檔 dangos eu bod i gyd yn cofnodi鈥檙 un signal gan eu hamgylchedd. Golyga hyn y gellir rhoi dyddiad ar gregyn meirwon, yr un fath 芒 choed, trwy groesgyfateb eu patrymau bandio gyda chregyn y mae eu dyddiadau鈥檔 hysbys. Felly mae鈥檔 bosib creu archif o gregyn gyda dyddiadau manwl gywir, fydd yn creu cofnodion am yr amgylchedd morol a allai fynd yn 么l gannoedd o flynyddoedd. Trwy gymharu鈥檙 patrymau bandio gyda mesuriadau offerynnol, dangoswyd sut mae twf yn y cregyn yn cyfateb i wahanol agweddau ar yr amgylchedd, megis tymheredd d诺r y m么r neu鈥檙 cyflenwad bwyd. Mae hefyd yn bosib ymchwilio i鈥檙 amgylchedd morol trwy ddadansoddi geocemeg deunydd y cregyn ei hun.
Hyd yma nid yw archifau mor fanwl wedi bod ar gael i鈥檙 moroedd mwy gogleddol. Yr hyn sydd gennym yma felly yw arf newydd a fydd yn cyfrannu at astudiaeth fanwl o hanes system hinsawdd y Ddaear fel mae wedi datblygu dros yr ychydig filoedd o flynyddoedd diwethaf ac a fydd yn gwella ein gallu i fodelu newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Mae Paul wedi cymryd rhan ganolog yn y datblygiadau hyn, ac i bob pwrpas mae wedi 鈥渄atgloi鈥 archif cwbl newydd o hinsawdd gyfnewidiol y moroedd. Yn yr argymhelliad nodwyd mai cyfrinach llwyddiant Paul yw ei allu i 鈥渄darllen鈥 cyfresi cregyn, i ddatgodio鈥檙 cofnodion hyn, ac i鈥檞 dadansoddi gyda chymorth dulliau ystadegol uwch sydd wedi deillio o ymchwil ar gylchoedd coed.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2011