Gwaith yn parhau ar Barc Gwyddoniaeth Menai
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn cymryd cam arall ymlaen yr wythnos hon wrth i waith archeoleg gychwyn ar y safle. Bydd y gwaith archaeoleg yn ffurfio rhan o鈥檙 cais cynllunio sydd i鈥檞 gyflwyno yn yr hydref. Mae鈥檙 cynllun, a fydd yn creu darpariaeth wyddonol o safon uchel ar gyfer busnesau a mentrau ymchwil yn gweithio at agor y drysau yn 2017.
Mae鈥檙 cynlluniau鈥檔 datblygu鈥檔 bositif ar hyn o bryd gyda nifer o gwmn茂au a mentrau yn datgan diddordeb mewn sefydlu ar y Parc gyda鈥檙 nod o gefnogi a chreu swyddi o safon uchel a chyflogau da yn yr ardal.
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn gartref ar gyfer busnesau a sefydliadau arloesol sy鈥檔 seiliedig ar wyddoniaeth a sy'n awyddus i ffynnu mewn amrywiaeth o sectorau. Bydd y Parc yn elwa o fuddsoddiadau mewn sectorau megis ynni, gwasanaethau amgylcheddol a thechnoleg l芒n, ond fe groesawir prosiectau mewn sectorau eraill hefyd.
Bydd rhaglenni allgymorth yn cael ei rhedeg i annog plant a phobl ifanc i bynciau gwyddonol a dangos argaeledd swyddi gwyddonol yn y rhanbarth.
"Mae鈥檔 braf iawn gweld y gwaith yn cychwyn ar y cynllun" meddai Ieuan Wyn Jones, cyfarwyddwr y Project, "bydd y gwaith archaeoleg yn ffurfio rhan o鈥檙 cais cynllunio a fydd yn gam sylweddol ymlaen i ni.鈥
Mae'r t卯m project yn awyddus i rannu gwybodaeth am y syniad ac i gasglu sylwadau gan y gymuned a byddant yn mynychu Sioe M么n ym mis Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014