Gweinidog Iechyd yn annerch Llys Prifysgol 黑料不打烊
Yr Is-Gaghellor, yr Athro John G. Hughes yn croesawu Lesley Griffith, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r BrifysgolBu Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn annerch Cyfarfod Blynyddol Llys Prifysgol 黑料不打烊 heddiw (Gwener 13 Ionawr 2012).
Mae'r Llys yn gorff mawr, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, aelodau seneddol a phroffesiynau eraill. Mae'n darparu fforwm lle gall aelodau o'r gymuned ryngweithio gyda'r Brifysgol.
Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
"Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi gosod tasg iddi ei hun i fod yn brifysgol sydd ymhlith goreuon y byd, lle mae ymchwil yn flaenoriaeth, gydag addysgu a dysgu o鈥檙 radd flaenaf ac sy鈥檔 cyfrannu at ddatblygu economi, iechyd a diwylliant Cymru gynaliadwy a byd cynaliadwy.
Bydd y cynnydd mewn addysg feddygol yng ngogledd Cymru yn darparu meddygon y dyfodol a fydd eisoes yn gyfarwydd ag agweddau dwyieithog a gwledig Cymru.
Mae cenhadaeth y Brifysgol yn adleisio fy uchelgais fel y Gweinidog Iechyd, a鈥檙 hyn sydd gan Lywodraeth Cymru, i wneud y GIG yng Nghymru ymysg goreuon y byd o ran ansawdd gwasanaethau ac ymchwil.
Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod bod cyflawni鈥檙 safon orau yn y byd ar gyfer ein gwasanaethau iechyd yn gofyn am ymdrech Cymru gyfan, o'r gymuned, unigolion, y Llywodraeth, y GIG, a phartneriaid. Rwyf yn falch bod Prifysgol 黑料不打烊 yn ystyried ei hun yn bartner, a bod ganddi gysylltiad ffurfiol 芒'r bwrdd iechyd, yn seiliedig ar agenda cyffredin yn ymwneud 芒 rhagoriaeth a chyflawniad."
Y Gweinidog yn ymweld 芒'r Ysgol Gwyddorau Meddygol efo'r Athro Michael Rees a Dean WilliamsYn dilyn ei hanerchiad i'r Llys, bu'r Gweinidog yn ymweld ag y Brifysgol, Ysgol Glinigol Gogledd Cymru ac Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yng nghwmni'r Athro David Shepherd, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil a Menter y Brifysgol. Yn ystod yr ymweliad bu'n trafod cysylltiadau鈥檙 Ysgol Gwyddorau Meddygol 芒'r GIG, a datblygiad cyfleusterau addysg sy鈥檔 gysylltiedig 芒 maes meddygol a gweld gwaith yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wrth hyfforddi nyrsys, radiograffwyr ac ymarferwyr eraill meddygol, yn ogystal 芒'u hymchwil i wyddorau iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2012