Gweithdy seicoleg yn arwain at ddatblygu rhwydwaith i Gymru gyfan i ymchwilio i atal dirywiad ac anabledd gwybyddol yn gysylltiedig 芒 henaint
Yn ddiweddar cynhaliodd yr Ysgol Seicoleg weithdy i drafod atal anabledd a dementia yn gysylltiedig 芒 henaint (trefnwyd gan yr Athro Linda Clare). Daeth nifer dda o academyddion, gweithwyr iechyd proffesiynol, a chynrychiolwyr o sefydliadau gwirfoddol a llywodraeth leol i鈥檙 gweithdy. Cafwyd y prif anerchiadau gan Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru a Ruth Marks, Comisiynydd Pobl H欧n Cymru, ac fe wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau dilynol.
Meddai Ruth Marks ar 么l yr achlysur: 鈥淢ae gweithredu i atal dirywiad ymysg pobl h欧n yng Nghymru yn allweddol i sicrhau bod pobl h欧n yn parhau鈥檔 iach ac annibynnol cyhyd 芒 phosibl. Yn ystod trafodaethau yn y gweithdy Heneiddio鈥檔 Dda, fe wnes i ganolbwyntio ar bum thema allweddol sydd wedi鈥檜 seilio ar Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig i Bobl H欧n. Y rhain oedd: Annibyniaeth 鈥 mae hyn yn cynnwys cymhorthion ac addasiadau i helpu pobl i aros yn eu cartrefi; Cyfranogiad 鈥 gwirfoddoli a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol; Gofal - cynllunio gwasanaethau y bydd pobl h欧n eu hunain yn ymwneud 芒 hwy; Hunan foddhad - sicrhau bod cyfleoedd dysgu a chymdeithasu ar gael; ac Urddas 鈥 trin pobl h欧n fel yr hoffem gael ein trin ein hunain. Mae atal afiechyd ac anabledd yn fwy na dim ond ymdrin ag iechyd corfforol; mae鈥檔 rhaid iddo gynnwys helpu pobl i barhau鈥檔 brysur a chymryd rhan fywiog yn eu cymunedau. Dylid cael dewis o weithgareddau wedi鈥檜 seilio ar anghenion a diddordebau pobl h欧n. Rhaid cynnwys pobl h欧n yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd 芒鈥檜 diddordebau ac y byddant yn cael eu defnyddio鈥檔 helaeth a鈥檜 gwerthfawrogi.鈥
Gwrandawodd y cynadleddwyr hefyd ar alwad i weithredu gan Gymdeithas Alzheimer, a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Ymchwil, Yr Athro Clive Ballard. Cyflwynwyd dulliau gweithredu arloesol newydd a ddatblygwyd gan Age Cymru Gwynedd a M么n (ACGM), gyda鈥檙 bwriad o gefnogi heneiddio鈥檔 iach. Mae鈥檙 dulliau hyn ar hyn o bryd yn destun ymchwil a wneir mewn partneriaeth rhwng ACGM a Phrifysgol 黑料不打烊. Canlyniad y gweithdy oedd ffurfio rhwydwaith i Gymru gyfan i ymchwilio i atal dirywiad ac anabledd gwybyddol yn gysylltiedig 芒 henaint. Prif nod y rhwydwaith hwn fydd datblygu cynlluniau ymchwil i wynebu'r her o alluogi pobl i gael bywyd iachach a chyflawn yn ddiweddarach yn eu hoes.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2011