Gweithgareddau Eisteddfod Dydd Llun
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, bydd Ysgol y Gymraeg yn dathlu鈥檙 cyfle a gafodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gydweithio 芒 thri chwmni ym maes cyhoeddi Cymraeg, sef Gwasg y Bwthyn, Gwasg Carreg Gwalch, a Barn Cyf.
I nodi'r cydweithio 芒 Gwasg y Bwthyn, caiff cyfrol o gerddi 鈥楢i Breuddwydion Bardd Ydynt?鈥 gan John Gruffydd Jones (Gwasg y Bwthyn) ei lansio fore Llun, 5 Awst, am 11.30 o鈥檙 gloch ym mhabell y brifysgol. Bydd hwn yn ddathliad dwbl, gan fod John hefyd wedi cwblhau cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn 2012.
Caiff y gyfrol 'Sgyrsiau Noson Dda' (Gwasg Carreg Gwalch) gan Dyfed Evans ei lansio'r un diwrnod am 12.45 o鈥檙 gloch ym mhabell Prifysgol 黑料不打烊. Cafodd y gwaith o brosesu a chynhyrchu'r gyfrol hon ei hwyluso gan Gwenno Gruffydd myfyrwraig Mynediad i Radd Meistr ym Mangor mewn partneriaeth 芒 Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst. Mae鈥檙 cynllun Mynediad i Radd Meistr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar brojectau MA mewn cydweithrediad 芒鈥檜 goruchwilwyr academaidd a chwmni neu gorff allanol . Fe鈥檌 gyllidir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy鈥檙 rhaglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Ysgol y Gymraeg wedi cydweithio ar broject Mynediad i Radd Meistr gyda Cwmni Barn Cyf, sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r cylchgrawn materion cyfoes a diwylliannol 'Barn'. I ddathlu llwyddiant y cydweithio hwn, cynhelir darlith flynyddol y cylchgrawn ym mhabell 黑料不打烊 am 2 o鈥檙 gloch brynhawn Mawrth. Y darlithydd eleni fydd Guto Bebb AS.
Yr Ysgol Dysgu Gydol Oes fydd yn cymryd yr awenau am 2.00 o鈥檙 gloch gyda鈥檙 ddarlith 鈥楢tebion Cymreig i argyfwng deallusol y diwylliant Eingl Americanaidd鈥 gan Selwyn Williams, darlithydd o鈥檙 ysgol.
Technoleg Gyfieithu Cymraeg yn y Steddfod
Brynhawn Llun am 4 o鈥檙 gloch, bydd t卯m Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn arddangos rhai o uchafbwyntiau eu gwaith eleni.
Un o鈥檙 cynnyrch mwyaf arloesol fydd yn cael ei ddangos fydd y system gyfieithu newydd, CyfieithuCymru.
Meddai Delyth Prys, pennaeth yr uned 鈥淒yma鈥檙 system gyntaf o鈥檌 bath sy鈥檔 canolbwyntio ar gyfieithu rhwng y Gymraeg a鈥檙 Saesneg. Fe wnaethon ni ei datblygu yn y lle cyntaf ar gyfer gwasanaeth cyfieithu mewnol Prifysgol 黑料不打烊, ond o weld y diddordeb ynddi gan gyrff eraill yng Nghymru, rydyn ni wedi datblygu fersiwn masnachol ohoni. Mae鈥檔 bwysig fod yr offer technolegol mwyaf blaenllaw ar gael i gyfieithwyr Cymru, ac mae鈥檙 system hon yn cyflymu鈥檙 gwaith yn fawr, ac yn helpu rheoli鈥檙 ansawdd ar yr un pryd 鈥 peth prin iawn i ddarn o feddalwedd allu ei wneud鈥.
Disgrifiad o鈥檙 system
Mae鈥檙 system gyfieithu yn cynnwys elfennau sy鈥檔 rheoli鈥檙 llif gwaith, o鈥檙 adeg pan fydd cwsmer yn archebu cyfieithiad, drwy鈥檙 broses o ddyrannu鈥檙 gwaith i gyfieithydd penodol, ei anfon yn 么l at y cwsmer, ei archifo a chynhyrchu adroddiadau ac ystadegau am y gwaith cyfieithu. Mae hefyd yn cynnwys cymorth cyfieithu: cof cyfieithu, cyfieithu peirianyddol a gwiriwr sillafu a gramadeg. Yn y cof cyfieithu, mae brawddegau tebyg o hen gyfieithiadau yn codi ar y sgrin er mwyn arbed gorfod ail-gyfieithu鈥檙 un peth. Am y tro cyntaf erioed, mae awgrymiadau o raglen cyfieithu peirianyddol yr Uned Technolegau Iaith yn cael eu cynnig, yn yr un ffordd 芒 deunydd o鈥檙 cof. Mae Cysill hefyd wedi鈥檌 integreiddio i鈥檙 cof, yn cywiro camgymeriadau wrth i鈥檙 cyfieithydd deipio. Mae geirfa gywir hefyd yn cael ei hawgrymu wrth i鈥檙 cyfieithydd deipio, ac mae鈥檙 cyfan yn cael ei gadw ar weinydd pell, neu yn 么l jargon y diwydiant heddiw, yn y 鈥渃wmwl鈥. Ystyr hyn yn ymarferol yw nad oes raid i鈥檙 cyfieithydd boeni am gynnal a chadw鈥檙 ochr dechnegol, y cyfan sydd angen ei wneud yw mewngofnodi gyda鈥檌 gyfrinair personol. Mae鈥檙 system yn cael ei rhannu rhwng cyfieithwyr mewn un corff neu sefydliad, ac mae modd iddyn nhw rannu cof a geirfa yn hwylus felly hefyd. Maen nhw hefyd yn gallu gweithio o bell, os oes ganddynt gyswllt gwe. Does dim esgus bellach dros fethu 芒 gweithio os yw eira mawr neu lifogydd yn eu rhwystro rhag cyrraedd y swyddfa!
Hyfforddiant i ddiwydiant
Bydd cyfle yn y sesiwn hefyd i glywed mwy am gynllun Hyfforddiant Ieithoedd a Chyfieithu yr uned (TILT). Mae hwn yn gynllun ar y cyd 芒 Phrifysgol Abertawe dan nawdd Llywodraeth Cymru a鈥檙 Undeb Ewropeaidd. Y nod yw gwella sgiliau iaith a chyfieithu busnesau yng ngogledd a gorllewin Cymru, er mwyn rhoi gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a鈥檙 cyhoedd. Bydd hyfforddiant ar gael ar dechnoleg cyfieithu ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn defnyddio鈥檙 system CyfieithuCymru er mwyn dysgu cyfieithwyr a swyddogion iaith sut mae systemau cof cyfieithu yn gweithio. Dywedodd David Chan, prif ddatblygwr y system CyfieithuCymru sydd hefyd yn gweithio ar y project TILT: 鈥淢ae cwmn茂au cyfieithu wedi bod yn gofyn i ni eu dysgu i ddefnyddio鈥檙 dechnoleg ers tro. O鈥檙 diwedd dyma gyfle i ni wneud hynny go iawn, a chyfle i鈥檙 cyfieithwyr astudio鈥檔 rhan-amser ar fodiwlau MA Cyfieithu ar yr un pryd.鈥
Yn ogystal 芒 hyfforddiant i gyfieithwyr, bydd TILT yn cynnig gwersi Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Japaneg a Tsiein毛eg i gwmn茂au, unwaith eto gan wneud defnydd o鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf i hwyluso鈥檙 gwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013