Gweithio ar y cyd i helpu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae prosiect cydweithredol rhwng Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill sy鈥檔 ceisio taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd wedi cael ei lansio mewn dwy ardal.
Gan weithio 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 a鈥檙 Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adolygu鈥檙 ffordd y mae鈥檔 taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae tactegau megis patrolau targed a datrys problemau wedi鈥檜 cydnabod yn rhyngwladol fel arferion da o ran gostwng lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd.
Ar ddechrau Tachwedd 2012, cafodd y prosiect ei lansio yn Y Rhyl a Wrecsam a gwelwyd y manteision yn syth. Mae鈥檙 arwyddion cynnar yn awgrymu bod llai o alwadau wedi'u gwneud i ystafell reoli'r heddlu o'r ardaloedd sy鈥檔 rhan o鈥檙 prosiect.
Meddai Arolygydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr Heddlu, Michael Isaacs: 鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn ein bod yn defnyddio ein hadnoddau i dargedu'r materion hynny sy鈥檔 achosi鈥檙 pryder mwyaf i gymunedau Gogledd Cymru ac mae鈥檔 galonogol clywed bod y cyhoedd wedi bod yn dweud wrthym yn barod eu bod yn gweld gwelliant yn eu cymdogaethau.鈥
Bydd y treialon yn parhau tan Mai 2013, ac yna bydd Prifysgol 黑料不打烊 yn cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru i bennu os yw鈥檙 math hwn o blismona yn effeithiol. Er bod yna dystiolaeth dda i gefnogi鈥檙 dull hwn o blismona, bydd yr astudiaeth yn galluogi鈥檙 Heddlu i werthuso ei effeithiolrwydd yng Ngogledd Cymru.
Mae鈥檙 Athro Jo Rycroft-Malone a Dr Christopher Burton, cyd-gyfarwyddwyr rhaglen ymchwil IMPLEMENT@BU yr , yn rhan o鈥檙 t卯m sy鈥檔 helpu i ddatblygu atebion plismona effeithiol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai鈥檙 Athro Rycroft-Malone: 鈥淢ae Dr Burton a minnau yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a鈥檙 Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona ar faterion sydd o bwysigrwydd rhanbarthol a chenedlaethol, ac mae'r prosiect cydweithredol hwn yn gyfle gwych i rannu profiadau ac arbenigedd wrth geisio darganfod 'be' sy'n gweithio' ar draws y gwahanol wasanaethau cyhoeddus."
鈥淢ae lleihau a datrys trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru,鈥 meddai Ian Shannon, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.
鈥淩wy鈥檔 falch o鈥檙 gefnogaeth yr ydym yn ei chael gan Brifysgol 黑料不打烊 a鈥檙 Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona. Mae'r prosiect cydweithredol hwn yn arddangos ein hymrwymiad i gydweithio sy'n allweddol er mwyn amddiffyn y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i'r cyhoedd, yn enwedig mewn cyfnod pan fo adnoddau'n gyfyngedig."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013