Gwersi mewn dwyieithrwydd: be all Corsica dysgu o Gymru?
Mae myfyriwr o Corsica yn ymweld ag Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar interniaeth i ddysgu am ddwyieithrwydd yng Nghymru. Bydd Petru Filippi, sy鈥檔 fyfyriwr Meistr ym Mhrifysgol Corsica, yn treulio 4 mis ym Mangor o dan oruchwyliaeth Dr Cynog Prys, Darlithydd mewn Cymdeithaseg ac arbenigwr mewn cynllunio ieithyddol yng Nghymru.
Eglurodd Petru: 鈥淒ewisais wneud yr interniaeth ar effaith polis茂au iaith dwyieithog yng Nghymru gan fod gennym sefyllfa ieithyddol debyg yn Corsica. Fodd bynnag, nid oes gan iaith Corsica (Corseg) gydnabyddiaeth swyddogol, er ein bod yn brwydro dros gael hynny鈥. Dr Cynog Prys (chwith) a Petru Filippi
Mae Corsica yn ynys oddi ar arfordir Ffrainc ble mae pobl yn siarad Ffrangeg a Corseg. Iaith leiafrifol yw Corseg, yn debycach i Eidaleg na Ffrangeg, gyda dwy dafodiaith, sef Corseg y gogledd (sy鈥檔 debycach i Eidaleg ardal Tuscany) a Corseg y de (sy鈥檔 debycach i Sardineg). Nid oes gan Corseg statws swyddogol yn Corsica gan fod cyfansoddiad Ffrainc yn nodi mai 鈥楩frangeg yw iaith Gweriniaeth Ffrainc鈥.
鈥淢ae鈥檙 sefyllfa ieithyddol yng Nghymru yn ddiddorol gan ei bod yn iaith hen iawn, yn hollol wahanol i Saesneg, ag wedi goroesi hyd heddiw. Hefyd, y Gymraeg yw鈥檙 iaith Geltaidd gyfoes sy鈥檔 cael ei defnyddio fwyaf鈥, medd Petru.
Yn ogystal 芒 hynny, iaith arall pobl Cymru yw Saesneg, sy鈥檔 iaith ryngwladol fawr, ac os yw pobl Cymru yn gallu cynnal a chynyddu鈥檙 defnydd o鈥檙 iaith ar waethaf hyn, mae鈥檔 esiampl dda i bobl Corsica.鈥
Yn ystod ei amser yng Nghymru, bydd Petru yn ymweld 芒 sefydliadau amrywiol sydd yn ymwneud 芒 hyrwyddo鈥檙 defnydd o鈥檙 Gymraeg, ym Mangor a thu hwnt. Bydd hefyd yn ysgrifennu adroddiad yn adrodd ar sefyllfa鈥檙 Gymraeg yng Nghymru, a鈥檙 gwersi y gellir eu ddysgu ar gyfer adfer iaith Corsica.
Meddai鈥檙 Dr Cynog Prys: 鈥淢ae鈥檔 wych gallu croesawu Petru yma i Brifysgol 黑料不打烊. Mae iaith Corsica a鈥檙 Gymraeg yn wynebu heriau tebyg, a gall cyfnewid mewn gwybodaeth ac arbenigedd fod o fudd i鈥檙 ddwy gymuned ieithyddol. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol clywed gan Petru am sut y mae Corseg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd, er bod y gefnogaeth gan Lywodraeth Ffrainc yn brin iawn.
鈥淏ydd Petru yn cael cyfle i gyfrannu at ddysgu o fewn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas drwy roi darlith yn y modiwl 鈥楬awliau Ieithyddol鈥. Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr yr adran glywed am y sefyllfa ieithyddol yng Nghorsica a chymharu sut mae gwahanol wladwriaethau yn delio gydag amlieithrwydd a ieithoedd lleiafrifol鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016