Gwobr arall i Lety Myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊
Mae Neuaddau Preswyl myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 wedi ennill 鈥楤est Student Halls鈥 gan ffynhonnell gwybodaeth o bwys i ddarpar fyfyrwyr.
Mae Student Crowd (https://www.studentcrowd.com/) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynegi eu barn am adnoddau eu prifysgolion ac i ddarpar fyfyrwyr cael dysgu am y prifysgolion sydd o ddiddordeb iddynt, a hynny drwy leisiau myfyrwyr y prifysgolion eu hunain.
Mae neuaddau鈥檙 Brifysgol yn seithfed o blith yr 20 Prifysgol orau yn y DU, o ran darparu llety myfyrwyr, a hyn ar sail 17,929 o adolygiadau llety gan y myfyrwyr eu hunain.
Yn 么l data gan UCAS, y corff sydd yn rheoli ceisiadau i brifysgolion, mae ansawdd y llety yn un o鈥檙 deg prif ffactor y mae darpar myfyrwyr yn ei hystyried wrth dderbyn cynnig prifysgol, ac mae neuaddau Prifysgol 黑料不打烊 ymysg y deg 鈥榦rau o fewn y dosbarth鈥, gan ddarparu鈥檙 math o newydd perswyl sydd yn cwrdd ag anghenion myfyrwyr.
Meddai Deirdre McIntyre, Pennaeth Bywyd Llety yn y Brifysgol:
鈥淓in nod yw darparu profiad cartref o gartref i鈥檔 myfyrwyr, tra鈥檜 bod yn byw yn ein Neuaddau Preswyl, gyda chefnogaeth cyfoedion gan Mentoriaid i鈥檞 cynorthwyo i setlo i mewn. Mae pob dim wedi ei gynnwys o biliau i aelodaeth gym, i鈥檙 rhaglen 鈥楤ywyd Campws鈥 helaeth o ddigwyddiadau a theithiau am ddim; rydyn ym ystyried ac yn cynnwys pob agwedd o fywyd cymunedol!
Ychwanegodd:
鈥淓r mwyn bod yn sicr bod gan ein myfyrwyr lais, mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn galw yn y fflatiau i holi beth sydd o bwys i鈥檔 preswylwyr, ac rydym yn gweithredu ar yr adborth. Mae 黑料不打烊 yn buddsoddi鈥檙 drwm mewn ailwampio, mae鈥檙 gofodau byw yn cael eu hadnewyddu鈥檔 rheolaidd er mwyn sicrhau bod y profiad ein myfyrwyr yn gadarnhaol o鈥檙 cychwyn.鈥
Mae cynnwys y Brifysgol yn y tabl diweddaraf yn dilyn nifer o wobrwyon eraill a ddyfarnwyd i鈥檙 neuaddau yn ddiweddar. Enillodd y Brifysgol tair gwobr yn y National Student Housiing Awards, am y rheolaeth amgylcheddol orau, y rhyngrwyd gorau i fyfyrwyr, a chan lwyddo i sicrhau lefelau bodlonrwydd o 90% neu uwch gyda myfyrwyr rhyngwladol ac ennill marc ansawdd llety rhyngwladol i'r brifysgol hefyd.
Seilliwyd y gwobrahu hyn hefyd ar adborth gan degau o filoedd o fyfyrwyr y DU i arolwg gan Red Brick Research.
Yn ddiweddar, rhoddwyd Prifysgol 黑料不打烊 yn 10 uchaf prifysgolion anarbenigol y DU hefyd, yn 么l yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol blynyddol diweddaraf.
Dyfarnwyd safon aur hefyd i'r brifysgol yn rownd gyntaf Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Llywodraeth y DU ac mae'n perfformio'n gyson dda, yn seiliedig ar ymatebion myfyrwyr yn y WhatUni Student Choice Awards.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018