Gwobr nodedig yr Academi Brydeinig i ddarlithydd 黑料不打烊
Mae'r darlithydd o Brifysgol 黑料不打烊, Dr Helena Migu茅lez-Carballeira, o'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, wedi derbyn bron i 拢90,000 i gynnal project a fyddai'n cyflwyno achos dros astudio diwylliant a gwleidyddiaeth gyfoes Sbaen o safbwynt 么l-wladychol.
Mae llwyddiant Dr Helena Migu茅lez-Carballeira wedi dod yn wyneb cystadleuaeth gref iawn: Cyflwynwyd 323 o geisiadau, ac mae'r Academi Brydeinig wedi gallu cynnig 35 o grantiau'n unig, sef gyfradd lwyddiant o ychydig dan 11%.
Gan ganolbwyntio ar gwestiynau'n ymwneud ag ymarfer hanesyddol, cynrychioli hunaniaethau cenedlaethol a gorthrwm gwleidyddol a diwylliannol, mae project Dr Migu茅lez-Carballeira yn ceisio meithrin dealltwriaeth newydd o Sbaen gyfoes drwy weld y wlad fel enghraifft o wrthdaro 么l-wladychol. Bydd ei phroject yn ymwneud 芒 gwleidyddiaeth genedlaethol fewnol yn Sbaen gyfoes ar adeg pan mae teimlad pro-annibyniaeth mewn cenhedloedd is-wladwriaeth fel Catalonia a Gwlad y Basg yn cynyddu.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, Dr Jonathan Ervine, bod derbyn Cymrodoriaeth Ganol Gyrfa'r Academi Brydeinig yn gyfystyr 芒 "ffurf llawn bri a haeddiannol iawn o gydnabyddiaeth ar gyfer ymchwil arloesol Dr Migu茅lez-Carballeira". Ychwanegodd ei fod yn "enghraifft wych o'r diwylliant ymchwil deinamig sy'n bodoli ym Mhrifysgol 黑料不打烊 o fewn Astudiaethau Sbaenaidd a'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn gyffredinol".
Mae Dr Migu茅lez-Carballeira wedi cyhoeddi'n eang ar wrthdaro cenedlaethol mewnol Sbaen. Mae'r cyfieithiad o'i monograff o'r Galiseg i Bortiwgaleg, Galician, a Sentimental Nation, wedi parhau'n un o'r llyfrau ffeithiol sy'n gwerthu orau yng Ngalisia ers ei gyhoeddi.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015