Gwobrau Caffael Cenedlaethol 2016: Cyngor Gwynedd yn ennill gwobr am Fuddion Cymunedol
Yn ystod y Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru 2016 a chafwyd eu cynnal gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol 黑料不打烊 a鈥檌 Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael yn ddiweddar, fe enillodd Cyngor Gwynedd y Wobr Genedlaethol am Fuddion Cymunedol.
Dyfarnwyd y wobr i Uned Strategaeth Polisi Tai y Cyngor mewn cydnabyddiaeth o鈥檌 weithrediad o Bolisi Buddion Cymunedol Llywodraeth Cymru drwy ei brosiectau adeiladwaith yng Ngogledd Cymru.
Fe oedd y panel beirniaid yn cydnabod ymdrechion Cyngor Gwynedd i ddefnyddio cymalau cymdeithasol yn y prosiectau adeiladwaith, fel peirianwaith llwyddiannus i gyflawni gwerth ychwanegol, ac ennill buddion cymunedol i bobl Gwynedd. Mewn ymdrech arloesol i ddyblygu鈥檙 ddull yma ar draws feysydd gwasanaethau eraill y Cyngor, fe lwyddodd yr Uned Strategaeth Polisi Tai Cyngor i gwblhau cynnig cyfalaf i wella effeithlonrwydd ynni o fewn eiddo鈥檙 Cyngor, ac hefyd i daclo tlodi tanwydd drwy Gynllun Cartrefi Clyd. Drwy wneud hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi ychwanegu gwerth, drwy fuddion cymunedol, i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwynedd, sef Ward Peblig yng Nghaernarfon. Mae鈥檙 ward wedi ei lleoli o fewn 6% o鈥檙 llefydd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae鈥檙 Cyngor wedi gosod allan defnydd penodedig o鈥檙 cymalau cymdeithasol fel angen sylfaenol, ac mae鈥檙 cymal yma yn y tendr yn galluogi鈥檙 Cyngor i gyflawni nifer o fuddion a gafodd eu cyflawni gan enillwyr y contract, Wilmott Dickson Energy Services. Er enghraifft, mae rhai o鈥檙 buddion yn cynnwys sicrhau fod pobl di-waith yn cael eu hyfforddi i brentisio, a phan oedd y prosiect yn gorffen, yna fe oeddent yn cael hyfforddiant allweddol a chymwysterau i鈥檞 galluogi i fod yn barod am waith, fel bod hyn yn atyniad cyflogadwyedd deniadol i gyflogwyr, wrth iddynt fynd ati i chwilio am swyddi newydd. Mae鈥檙 prosiect wedi sicrhau canlyniad cadarnhaol, ac mae鈥檙 holl brentisiaid yn awr mewn swyddi llawn amser.
Yn eu hadborth, dywed beirniaid Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru:
鈥淢ae鈥檙 cyflwyniad yn dangos mai yr allwedd cyntaf i lwyddiant yw dechrau efo gwerthoedd craidd. Mae鈥檙 ddull yma wedi galluogi i nod Cyngor Gwynedd gael ei fewnblannu drwy鈥檙 system gaffael. Mae鈥檙 ffocws ar ddiwylliant fel grym i yrru hyn yn ei flaen, ac mae鈥檔 adfywiol iawn i鈥檞 weld. Mae gwneud y pobl 鈥 y tenantiaid, eu cymunedau, a鈥檙 staff sydd yn cael y canlyniadau 鈥 yn flaenoriaeth, yn hytrach na chanolbwyntio ar y offer sydd yn cael ei ddefnyddio, ac fe ddylai鈥檙 ffordd yma o weithredu gael ei fabwysiadu ym mhob man.鈥
Wrth groesawu llwyddiant Cyngor Gwynedd yn ennill y wobr genedlaethol am weithredu Buddion Cymunedol yn eu prosesau caffael, dywedodd yr Athro Dermot Cahill, Cadeirydd y Beirniaid a Phennaeth Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊, yn y noson wobrwyo:
鈥淢ae Buddion Cymunedol yn esiampl o bolisi caffael Llywodraeth Cymru sydd yn awr wedi ei fabwysiadu yn eang gan y sector gyhoeddus Gymreig, er budd y busnesau yng Nghymru, a phobl Cymru. Mae鈥檔 esiampl o bolisi sydd wedi cael llawer o feddwl, ac sydd, dros nifer o flynyddoedd, wedi cael ei fabwysiadu mewn defnydd eang yn nhendrau鈥檙 sector gyhoeddus ar draws nifer o feysydd yn y sector gyhoeddus Gymreig. Mae wedi ei ddylunio i sicrhau, hyd yn oed ar 么l i鈥檙 cytundeb cyhoeddus gael ei gwblhau, fod, yn aml, fuddion etifeddol yn aros o fewn cymunedau i hyrwyddo cyflogadwyedd a chydlyniad cymdeithasol. Dylai Cyngor Gwynedd gael ei longyfarch am ei lwyddiant.鈥
(O鈥檙 chwith): Arwel Evans, Sandra Karlin, Emma Davies, Dave Sinclair, Rhodri Owen, Elliw Llyr, Ruth Jones, i gyd o Gyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2016