Gwobrau Caffael Cenedlaethol 2016: Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ennill gwobr am gaffael electroneg
Yng Ngwobrau Caffael Cenedlaethol 2016, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar gan Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊, fe dderbyniodd RCT Homes y wobr am Gaffael Electroneg.
Sefydlwyd RCT Homes Ltd yn 2007 fel cymdeithas dai gymdeithasol gydfuddiannol ar gyfer trosglwyddiad tai cymdeithasol o eiddo Cyngor Sir Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf. Yn un o鈥檙 cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru, gyda stoc o dros 10,000 o dai ar rent (yn cynnwys 740 dan gynllun tai gwarchod), mae RCT wedi cael y wobr yma am ei gynnydd mewn rhedeg ocsiynau electroneg fel ffordd o gael gwared o eiddo nad oedd yn cael ei ddefnyddio. Beth oedd yn hynod arwyddocaol oedd yr adborth cadarnhaol oddi wrth gynigwyr. Fe oeddent yn teimlo fod y cynllun yn gyfeillgar i鈥檙 defnyddwyr, ac hefyd yn ffordd gost-effeithiol o werthu mewn cymhariaeth 芒 defnyddio t欧 ocsiwn traddodiadol. Fe oedd y prosiect angen t卯m efo sgiliau croes-weithredol, ynghyd 芒 chyswllt efo partneriaid allanol, ac yn ymglymu t卯m caffael RCT, t卯m rheoli asedau, gwerthwr tai lleol, t卯m prydleswyr, a platfform tendr electroneg Cymru, gyda hostia Bravo Solutions, i redeg yr ocsiwn electroneg.
Beth oedd wedi creu argraff ar y beirniaid oedd y lefel o arloesedd a gafwyd drwy ddefnyddio ocsiwn electroneg, ac fe oeddent yn cymeradwyo defnydd caffael electroneg yn y sefyllfa newydd yma. Yn ogystal, fe oeddent yn hoff o ddimensiwn 鈥渕eddwl y tu allan i鈥檙 bocs鈥 oedd yn perthyn i鈥檙 prosiect, ac yn dweud bod hyn yn arwain tuag at ddefnydd eang o ocsiynau electroneg a chaffael electroneg yn y sector cyhoeddus Cymreig.
Yn derbyn y wobr ar ran RCT Homes, efo Nia Parry, cyflwynydd teledu S4C: Daniel Keenan, Andrew Bradley, Robin Roberts, Liz Aitken, (Nia Parry) a Wayne Hughes.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2016