Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2013
Cynhaliodd Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd 芒 Gwobrau'r Cynrychiolwyr Cwrs yn ddiweddar yn Neuadd PJ, a hynny am yr ail flwyddyn.
Rhoddwyd y cyfle i fyfyrwyr enwebu unrhyw aelod o staff mewn ystod o gategor茂au'n amrywio o "Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn" i "Athro'r Flwyddyn" a derbyniwyd ymron i 300 o enwebiadau, yn pontio'r holl ystod o safleoedd staff ac adrannau.
Dywedodd Sh么n Prebble, Is-lywydd Addysg a Lles Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊: "Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gydnabod ymroddiad a gwaith caled y staff ym Mangor at wella eu profiad fel myfyrwyr. Mae'n gyfle i ddweud diolch. Cawsom enwebiadau gan bob un Ysgol yn ogystal 芒'r rhan fwyaf o adrannau gwasanaeth, ac roedd yn waith caled iawn i'r panel myfyrwyr ddewis rhai o'r enillwyr o'r rhestr fer."
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor: "Mae'r Gwobrau Dysgu wedi bod yn llwyddiant enfawr eto eleni ac maent yn pwysleisio'r gwaith aruthrol a wneir gan aelodau鈥檙 staff drwy'r brifysgol. Roedd yr enwebiadau'n deimladwy ac yn ysbrydoliaeth ac roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol."
Llongyfarchiadau i enillwyr hynod deilwng 2013:
Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn
Nerys MacDonald (Yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg)
Gwobr Arloesi
Dr Pedro Telles (Ysgol y Gyfraith)
Gwobr am Hyrwyddo Addysg Cyfrwng-Cymraeg
Ms Sian Beidas (Ysgol Ieithoedd Modern)
Gwobr Ryngwladol
Ms Manuela Vittori (Canolfan Addysg Ryngwladol)
Gwobr Adborth Ardderchog
Ms R. Lyle Skains (Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau)
Gwobr Bywiogi Dysgu
Mr Nigel Brown (Ysgol Gwyddorau Biolegol)
Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol
Mrs Gillian Griffith (Ysgol Cerddoriaeth)
Goruchwyliwr Traethawd Hir y Flwyddyn
Yr Athro Judy Hutchings (Ysgol Seicoleg)
Gwobr Ymgysylltu 芒 Myfyrwyr
Dr Chris Collins (Ysgol Cerddoriaeth)
Gwobr Adran - Gwasanaeth i Fyfyrwyr
Uned Cymorth Ariannol (Gwasanaethau Myfyrwyr)
Aelod Staff Cefnogi'r Flwyddyn
Mrs Liz du Pre (Canolfan Dyslecsia Miles)
Athro 脭l-radd y Flwyddyn
Mr Stephen Clear (Ysgol y Gyfraith)
Gwobr am Gyrhaeddiad Eithriadol
Dr David Evans (Ysgol Cerddoriaeth) - derbyniwyd wedi ei farw gan ei fab
Athro Newydd y Flwyddyn
Ms Thandiwe Gilder (Ysgol Seicoleg)
Athro'r Flwyddyn
Dr Lucy Huskinson (Ysgol Athroniaeth a Chrefydd)
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2013