Gwyddonwyr lleol ac athrawon yn uno i ddod 芒鈥檙 wyddoniaeth ddiweddaraf i Ysgol Uwchradd Bodedern
Disgyblion Ysgol Bodedern yn y DosbarthMae Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB) ar Ynys M么n wedi cael ei dewis gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU, i dderbyn Grant Partneriaeth. Hon yw ail grant o鈥檌 bath yn unig i ddod i Ogledd Cymru a bydd yn galluogi i wyddonwyr lleol o Brifysgol 黑料不打烊 weithio gydag athrawon o鈥檙 ysgol i roi project gwyddonol arloesol ar waith.
Nod y project o鈥檙 enw Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew, yw cyflwyno i鈥檙 disgyblion effeithiau newid hinsawdd ar anifeiliaid m么r mewn rhan o鈥檙 byd lle mae newid amgylcheddol yn fygythiad arbennig i fioamrywiaeth a chynefinoedd. Bydd disgyblion o Flwyddyn 10, sydd rhwng pedair ar ddeg ac un ar bymtheg oed, yn wynebu鈥檙 her o lunio a phrofi damcaniaethau ynghylch newid hinsawdd, ac edrych sut y gellir defnyddio cymysgedd o dystiolaeth fiolegol a ffisegol ar amodau m么r i asesu effeithiau ar bysgod rhew yr Antarctig a鈥檙 gymuned forol ehangach. Bydd y bartneriaeth i ddechrau鈥檔 cynnwys arddangosiadau a gwaith labordy i ddisgyblion yn YUB, a dilynir hynny gan sgyrsiau a gwaith labordy ymarferol yn y Labordy Ecoleg Foleciwlaidd a Geneteg Pysgodfeydd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 黑料不打烊. Caiff gwaith gwyddonol ei ddarlledu鈥檔 uniongyrchol o鈥檙 Antarctig yn niwedd 2013, drwy ddefnyddio podlediadau a chysylltiadau fideo, i wyddonwyr yn King Edward Point, De Georgia. Yna edrychir ar ffyrdd o lunio damcaniaethau a chasglu tystiolaeth yn ymwneud 芒 newid hinsawdd drwy wahanol ddulliau gwyddonol. Er enghraifft, disgwylir i dymereddau uwch leihau goroesiad a dosbarthiad larfau pysgod mewn dyfroedd m么r, oherwydd gall twf cyflymach achosi i bysgod ifanc lwgu i farwolaeth cyn iddynt gyrraedd y rhannau o鈥檙 m么r lle byddant yn tyfu. Defnyddir offer genetig diweddaraf (math o 鈥榖roffilio genetig鈥) a microsgopeg uwch i bennu oedran pysgod ifanc er mwyn archwilio tebygolrwydd a thystiolaeth dros effeithiau o鈥檙 fath dan amrediad o dymereddau dynwaredol.
Morfil cefngrwm - rhan o ecosystem yr Antarctig : Credyd Llun - Dr Mike Meredith BAS CambridgeYn dilyn y gweithgareddau hyn, bydd disgyblion uwchradd o YUB yn defnyddio鈥檙 technegau a鈥檙 wybodaeth a g芒nt o鈥檙 bartneriaeth 芒鈥檙 Brifysgol i lunio ymarfer pontio i ddisgyblion Blwyddyn 6 (cynradd) o ysgolion cynradd lleol (yn cynnwys Ysgol Gymuned Bryngwran,Ysgol Cylch Y Garn Llanrhyddlad, Ysgol y Ffridd Gwalchmai, Ysgol Gymuned Llannerchymedd, Ysgol Pencarnisiog, Ysgol Gynradd Bodedern, Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Ysgol Ffrwd Win Llanfaethlu, Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi) yn ystod tymor yr haf. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad yng Ng诺yl Wyddoniaeth 黑料不打烊 ym Mawrth 2013 . Mae partneriaid y project yn cynnwys y British Antarctic Survey, sydd 芒鈥檌 phencadlys yng Nghaergrawnt, sy鈥檔 datblygu modelau i ddeall dosbarthiad larfau pysgod rhew mewn perthynas ag amodau hinsoddol a morol. Gall rhagfynegiadau o fodelau o鈥檙 fath gael eu profi gan ddefnyddio tystiolaeth o鈥檙 astudiaethau genetig a heneiddio. Mae鈥檙 project yn cynnig cyfle i bobl ifanc gyfarfod 芒 gwyddonwyr lleol a gweithio 芒 hwy ac mae鈥檔 eu galluogi i ddatblygu eu dealltwriaeth wyddonol mewn ffordd sy鈥檔 gyffrous, yn wreiddiol a pherthnasol i鈥檞 bywydau.
Meddai鈥檙 Athro John Pethica FRS, Is-Lywydd y Gymdeithas Frenhinol, 鈥淩ydym yn falch o gael cefnogi鈥檙 project Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew yn Ysgol Uwchradd Bodedern, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y project cyffrous yma鈥檔 dod yn fyw dros y misoedd i ddod.鈥
鈥淢ae gwyddoniaeth a pheirianneg yn bynciau cyffrous a deinamig a thrwy roi cyfle i athrawon gyflwyno gwyddoniaeth arloesol, ein gobaith yw y gallwn helpu i ddangos i bobl ifanc gymaint o hwyl y gall y pynciau hyn fod mewn bywyd go iawn, a鈥檜 hysbrydoli i ddod yn ddyfeiswyr, fforwyr ac arloeswyr y dyfodol.鈥
Tirlun o'r Antarctig : Credyd Llun - Dr Mike Meredith BAS CambridgeBydd Yr Athro Gary Carvalho, Athro Ecoleg Foleciwlaidd, a Dr Mark de Bruyn, gwyddonydd ymchwil 么l-ddoethurol ym Mhrifysgol 黑料不打烊, yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Lyndell Williams Pennaeth Bioleg yn Ysgol Bodedern o Fedi 2012 tan Ebrill 2014. Wrth s么n sut y daeth i ymwneud 芒鈥檙 cynllun, dyma oedd gan yr Athro Carvalho i鈥檞 ddweud: 鈥淏ydd ein project yn rhoi bywyd i鈥檙 hyn mae disgyblion yn ei ddysgu yn y dosbarth a鈥檜 helpu i ddeall effaith gwyddoniaeth ar eu gweithgareddau dyddiol. Trwy wneud y pynciau hyn yn berthnasol gallwn ddangos pa mor allweddol ydynt i鈥檔 bywydau.鈥
Meddai Mrs Anwen Morgan, pennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern: 鈥淔el ysgol rydym yn falch iawn o gael ymwneud 芒鈥檙 project yma ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol 黑料不打烊."
Dylai athrawon, gwyddonwyr, peirianwyr a phartneriaid o ddiwydiant sydd 芒 diddordeb ymgeisio am Grant Partneriaeth ymweld 芒 .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2012