Gwyddonwyr yn dod o hyd i aur mewn corsydd ym Mhrydain
Gallai gwerth corsydd Prydain fod ar fin codi i鈥檙 entrychion, gan eu gwneud yr un mor werthfawr 芒 thir fferm da.
Yr Athro Chris Freeman (chwith) a Christian Dunn yn ymchwilio faint o garbon sy'n cael ei ddal gan fawndirMae adolygiad gan wyddonwyr ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynyddol mawndiroedd ar farchnadoedd masnachu carbon a chyfreithiau rhyngwladol sydd 芒'r nod o fynd i'r afael 芒 newid yn yr hinsawdd.
Roedd yr ymchwil, dan arweiniad yr Athro Chris Freeman, yn dangos er bod mawndiroedd yn cynnwys ddwywaith cymaint o garbon 芒 choedwigoedd y byd nad oes fawr ddim s么n amdanynt ym mholisi gwreiddiol y Cenhedloedd Unedig i leihau allyriadau nwyon t欧 gwydr - Protocol Kyoto.
Ond mae argoelion bod pethau鈥檔 mynd i newid yn 2013 pan fydd cam cyntaf y protocol yn dod i ben a chynllun newydd yn cymryd ei le.
Gallai newid o'r fath olygu bod y gwaith o warchod ac adfer mawndiroedd - sy'n cynnwys corsydd a ffeniau Prydain - yn troi鈥檔 fusnes proffidiol i lywodraethau a thirfeddianwyr.
Eglurodd Christian Dunn, myfyriwr 么l-raddedig a fu'n gweithio ar y gwaith ymchwil gyda'r Athro Freeman yn Labordy Carbon Wolfson ym Mangor,: "Mae mawnogydd yn rhyddhau symiau amrywiol o nwyon t欧 gwydr - yn fwyaf arbennig methan a charbon deuocsid - sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang.
"Ond os yw'r mawndiroedd hyn yn cael eu rheoli'n gywir gall leihau faint o鈥檙 nwyon hyn sy鈥檔 cael eu rhyddhau i'r atmosffer," meddai.
"Mae datblygiadau diweddar a phenderfyniadau sy鈥檔 ymwneud 芒 Phrotocol Kyoto, ac unrhyw ragflaenydd iddo, yn golygu y gallai rhoi cyfrif am arbedion nwyon t欧 gwydr trwy reoli mawndiroedd ddod yn broffidiol iawn.
"Gallai Llywodraethau ddefnyddio 'stiwardiaeth carbon' mawndiroedd eu gwledydd i鈥檞 helpu i gyrraedd targedau lleihau allyriadau rhyngwladol a gallai sefydliadau greu credydau carbon swyddogol i鈥檞 masnachu ar y nifer cynyddol o farchnadoedd carbon."
Ychwanegodd Christian: "Mae corsydd Prydain yn llawer pwysicach nag y mae pobl yn sylweddoli ond mae gwerth ariannol gwirioneddol y tir yn gymharol isel.
"Ond gallai stiwardiaeth carbon mawndiroedd newid hyn ac efallai un diwrnod, byddwn yn gweld eu pris yn cyrraedd pris y tir amaethyddol gorau."
Dywedodd yr Athro Freeman: "Mae mawndiroedd Prydain yn cwmpasu ardal o 5,240,000 hectar - tua dwywaith maint Cymru - ac maent yn cloi tua 3,121 mega dunnell o garbon.
鈥淢ae鈥檔 amlwg nad ydym ni ddim eisiau i鈥檙 carbon hwnnw gael ei ryddhau fel carbon deuocsid neu fethan, felly mae angen i ni edrych ar 么l ein mawndiroedd, ond gyda'r pwysau cyson ar dir mae angen cymhelliant i atal ein corsydd rhag cael eu draenio."
"Os bydd deddfwriaeth newid yn yr hinsawdd a masnachu carbon yn ei gwneud yn werth chweil i wledydd a sefydliadau edrych ar 么l eu mawndiroedd yna mae gennym dipyn mwy o siawns o warchod y tirweddau unigryw hyn a'r bywyd gwyllt sy'n byw ynddynt," ychwanegodd yr Athro Freeman.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2011