Haf o berfformiadau byd-eang
Dr Ed WrightBydd darlithydd o Brifysgol 黑料不打烊 wrthi鈥檔 brysur yn perfformio ym mhedwar ban byd yr haf hwn. Bydd Dr Ed Wright, sy鈥檔 dysgu cyfansoddi a thechnoleg cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth, yn perfformio ei gyfansoddiadau electroacwstig ei hun mewn amryw o leoliadau. Meddai Dr Wright:
鈥淢ae鈥檔 wych fod gen i鈥檙 cyfle i fynd allan a chyflwyno gwaith sy鈥檔 seiliedig ar yr ymchwil rwy鈥檔 ei gwneud. Mae nifer o brojectau cerddoriaeth yr haf yma鈥檔 golygu gweithio gyda chyfansoddwyr neu berfformwyr eraill, felly mae鈥檔 wirioneddol ddiddorol cyfnewid syniadau a gweld sut y gall gwaith ddatblygu a thyfu, a chael ei ddehongli y tu hwnt i鈥檆h syniadau chi, sef y 鈥榗yfansoddwr鈥, a鈥檙 rheiny weithiau鈥檔 gyfyngedig. Ar ben hynny, mae鈥檔 wych mynd i weld rhannau eraill o鈥檙 byd a gweithio yno mewn modd creadigol, am fod y celfyddydau, yn ddigon aml, heb fod mor unffurf ar raddfa fyd-eang ag y cawsom gredu!鈥
鈥楻isk of Shock鈥 fydd y digwyddiad cyntaf, sydd i鈥檞 gynnal ar 21 Mehefin yn Neuadd JP, Prifysgol 黑料不打烊. Prosiect a ddatblygwyd gan Pontio yw Pelydrau, sy鈥檔 rhoi cyfle i blant o anghenion addysgiadol arbennig i arbrofi gyda sain a chyfansoddi, yn ogystal 芒 gweithio tuag at berfformiad o ansawdd uchel o鈥檙 gwaith a grewyd ganddynt. Mae鈥檙 digwyddiad rhyngweithiol hwn hefyd yn cynnwys gweithiau gan Richard Garret, Rob Mackay a pherfformiadau gan y clarinetydd ifanc, Sioned Eleri Roberts.
Yna, bydd Ed yn ymweld 芒 Phrifysgol Brunel, Llundain ar gyfer G诺yl BEAM, a gynhelir rhwng 22 a 24 Mehefin. Mae G诺yl BEAM yn arddangos celfyddydwaith 芒 sain.
Cauldrons and Furnaces fydd y perfformiad nesaf, ar 1 Gorffennaf, yng Nghastell Caernarfon. Menter gan Cadw yw hon, sy鈥檔 arddangos yr amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog sydd yng Nghymru trwy rychwant eang o weithgareddau creadigol. Bwriad Cauldrons and Furnaces yw adlewyrchu鈥檙 dathliadau sy鈥檔 arwain at Lundain 2012, ac mae鈥檔 bartneriaeth rhwng Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chyllid o Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU. Mae perfformiad Ed yn cyfrannu at y digwyddiad lliwgar, sy鈥檔 cynnwys gweithdai celfyddyd gymunedol, dawns, cerddoriaeth a gweithgareddau crefftau creadigol.
O Gaernarfon yn 么l i Lundain, bydd Ed yn perfformio yn Scaledown, cyfres barhaus o adloniant amgen, ar 么l oriau swyddfa, ar 27 Gorffennaf.
Yna, ym mai Awst, bydd Ed yn croesi鈥檙 Iwerydd i fynd i Symposiwm Electroacwstig dros dri diwrnod yn Toronto, lle bydd yn perfformio i gymuned electroacwstig amrywiol.
Bydd ei berfformiad olaf i鈥檞 glywed yn y Gynhadledd Ryngwladol ar gyfer Cerddoriaeth Gyfrifiadurol, sydd i鈥檞 chynnal yn Ljubljana, Slofenia, rhwng 9 鈥 15 Medi; hwn yw鈥檙 prif fforwm er 1974 ar gyfer cyflwyno鈥檙 ystod lawn o ddeilliannau o ymchwil dechnegol a cherddorol, yn gerddorol ac yn theoretig, yng nghyswllt defnydd cyfrifiaduron mewn cerddoriaeth.
I gael mwy o wybodaeth am Ed, yngl欧n 芒 lle bydd yn perfformio, ac am fyd cerddoriaeth electroacwstig, ewch i鈥檞 wefan, sef .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2012