Hanes yn agor ei drysau i'r cyhoedd
Bydd ymchwilwyr a haneswyr yn cael gwledd pan fydd llawysgrifau o'r ddeuddegfed ganrif ac amrywiaeth eang o lyfrau prin yn cael eu harddangos.
Yn dilyn gwaith adnewyddu diweddar, bydd yr ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn agor ei drysau i'r cyhoedd pan gynhelir diwrnod agored ar 26 Ebrill rhwng 12 a 4.00pm.
Cewch gyfle i weld arddangosfa o gasgliad amrywiol ac unigryw o archifau a llawysgrifau yn ogystal 芒鈥檙 cyfle i gael taith tu 么l i'r llenni yn yr adran archifau.
Bob blwyddyn bydd cannoedd o bobl yn ymweld ag adran Archifau a Chasgliadau Arbennig y brifysgol i wneud ymchwil gan ddefnyddio'r casgliadau ar gyfer amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd.
Gyda chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn agos谩u, bydd mapiau a ffotograffau am frwydr Passchendaele yn cael eu harddangos ynghyd 芒 dyddiaduron o'r ffosydd yn rhoi disgrifiad manwl o fywyd caled y milwyr yn y ffosydd.
Meddai Archifydd Prifysgol 黑料不打烊, Einion Thomas, "Bydd ein casgliadau enfawr o ddiddordeb i unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am hanes amrywiol a bywiog gogledd Cymru. Bydd staff yr archifau ar gael yn ystod y diwrnod agored i gynorthwyo ac arwain haneswyr er mwyn iddynt gael y budd mwyaf o'n hadnoddau."
Ni chodir t芒l mynediad a bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y diwrnod.

Llun: Map swyddogol y fyddin yn dangos Cefn Pilkem ac Iron Cross lle y lladdwyd Hedd Wyn ar Orffennaf 31, 1917
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2013