Her Ddiwylliannol 2013
Y t卯m buddugolYn ddiweddar, cynhaliwyd Her Ddiwylliannol flynyddol Prifysgol 黑料不打烊 ac roedd yn llawn amrywiaeth a chyffro fel arfer. Roedd yr achlysur, a drefnwyd gan y T卯m Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, mewn partneriaeth 芒'r CSSA (Cymdeithas Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tsieineaidd), yn rhoi pwys ar amrywiaeth ddiwylliannol a gweithio mewn t卯m.
Yn yr Her gwelwyd wyth t卯m o fyfyrwyr tramor a rhai o wledydd Prydain yn cystadlu mewn rownd gyflwyniadau a chwis gwybodaeth gyffredinol. Gofynnwyd i'r timau ganfod ffordd greadigol o gyflwyno diwylliant un neu fwy o wledydd brodorol aelodau'r t卯m.
Fe wnaeth yr holl dimau a gymerodd ran syfrdanu'r panel o chwe beirniad a'r gynulleidfa gyda'u cyflwyniadau cyffrous a diddorol ac i ddilyn hynny cafwyd cwis cyflym.
Roedd y t卯m a enillodd yn cynnwys Elinor Higgins, myfyriwr BSc Seicoleg o Brydain, Anh Phuong Pham, myfyriwr MA Rheolaeth a Chyllid o Fietnam, Zhong Yang Li, myfyriwr BA Economeg Busnes a Yuqi Wu, myfyriwr BSc Cyfrifeg a Chyllid, y ddau o China.
Yr holl dimauEu gwobr fydd taith i Shanghai a Beijing yn ystod gwyliau'r Pasg. Bydd y t卯m yn cael cyfle i brofi a darganfod diwylliant Tsieineaidd a chyfarfod 芒 chyn-fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊.
Meddai Manuela Vittori, Swyddog Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol: "Mae'r Her Ddiwylliannol, sydd yn ei hail flwyddyn bellach, nid yn unig yn gystadleuaeth fywiog a hwyliog, ond mae'n gyfle hefyd i fyfyrwyr sy'n cymryd rhan ddysgu mwy am wledydd a diwylliannau ei gilydd. Roedd creadigrwydd y myfyrwyr yn amlwg yn eu cyflwyniadau caboledig ac roedd yn amlwg bod y timau wedi gweithio'n galed i'w gwneud yn hwyliog ac yn addysgiadol yr un pryd."
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2013