Her Ddringo ar gyfer Cronfa Goffa Mab
Emma (chwith) a Hazel ar gopa'r Wyddfa.Mae Hazel Frost, Cynorthwy-ydd Clercyddol yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol 黑料不打烊 gyda鈥檌 ffrind Emma Wynne-Hughes, gweinyddwr yn Ysgol Busnes 黑料不打烊 yn codi arian tuag at Gronfa Goffa Darren Rhys Frost a Th欧 Gobaith. Mae鈥檙 p芒r wrthi鈥檔 paratoi ar gyfer eu her fwyaf anodd hyd yma i godi arian. Ar 28 Gorffennaf, bydd Hazel ac Emma yn cychwyn ar eu taith gerdded i fyny Kilimanjaro ar Lwybr Machame, gan anelu at gyrraedd ei gopa, 19,340 troedfedd o uchder, ar 3 Awst.
Lladdwyd mab Hazel, Darren, mewn damwain drasig yn 2009. Sglefrfyrddio oedd prif ddiddordeb Darren; fodd bynnag, nid oedd cyfleusterau sglefrfyrddio ar gael ym Mangor. Sefydlwyd gr诺p i ymgyrchu dros sefydlu Parc Sglefrfyrddio ym Mangor ac, ers ychydig flynyddoedd, mae Hazel, ynghyd 芒 ffrindiau Darren a myfyrwyr o鈥檙 Brifysgol, wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau, gan godi bron i 拢15,000.
Meddai Hazel, 鈥淢ae gobaith fod y Parc Sglefrfyrddio wedi rhoi i bobl ifanc 黑料不打烊, y dref lle'r oedd Darren yn byw, rywle i fynd a chael hwyl. Rwyf wrth fy modd fod y Cyngor yn mynd i barhau i helpu Cronfa Goffa Darren Rhys gan ddynodi mwy o dir ar gyfer mwy o weithgareddau sglefrfyrddio ac i gynorthwyo gyda mwy o brojectau鈥.
Agorwyd y parc sglefrio cyntaf er cof am Darren yn 2011, ac mae Hazel wedi parhau ei hymdrechion i godi arian ac yn awr mae ail barc sglefrio newydd wedi cael ei adeiladu ym Mangor ar Ffordd Caernarfon, agorwyd yn swyddogol ar 15 Gorffennaf 2012.
"Mae'n wych bod parc sglefrio arall ym Mangor, a chyfleuster arall ar gyfer pobl ifanc oherwydd mae cyn lleied iddyn nhw," meddai "Mae'n wahanol fath o barc gyda rampiau ac mae llwybrau yn hytrach na phowlen, bydd yn well i'r sglefrwyr iau."
"Mae'r hyfforddiant ar gyfer Kilimanjaro yn mynd yn dda eto ar 么l anaf i fy mhen-glin fy nal yn 么l am ychydig wythnosau. Rydym hefyd wedi bod yn gwneud ymarferion gwres eithafol / oerfel eithafol ar felin draed oleddf, a hyfforddiant ar gyfer uchder mewn siambr yn labordy gwyddorau chwaraeon ym Mhrifysgol 黑料不打烊, aeth hyn yn dda iawn." Ychwanegodd Hazel.
Bu Hazel hefyd yn cymryd rhan yn y ras gyfnewid drwy Fangor ar 28 Mai 2012.
I unrhyw un sy鈥檔 awyddus i roi, ceir dwy ffordd; i roi i Gronfa Goffa Darren Rhys, anfonwch e-bost at hazel.frost@bangor.ac.uk neu e.wynne-hughes@bangor.ac.uk er mwyn llenwi eu ffurflen noddi, neu i roi i D欧 Gobaith, ewch ar-lein i .
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2012