Her Weiren Wib T卯m Cemeg i godi arian i D欧 Gobaith
T卯m Cemeg cyn yr her.
Aeth t卯m o Ysgol Cemeg Prifysgol 黑料不打烊 i chwilio am wefr ar y weiren wib yn ddiweddar er mwyn codi arian at hosbis plant T欧 Gobaith. Roedd y t卯m dewr a wynebodd her y weiren a'r tywydd i godi arian at elusen leol yn cynnwys israddedigion, myfyrwyr 么l-radd a doethuriaeth, a staff academaidd a gweinyddol yr ysgol.
Mae'r Weiren Wib a agorwyd yn ddiweddar yn croesi uwchben Chwarel y Penrhyn ym Methesda. Y ddwy weiren yw'r rhai hiraf a'r ail hiraf yn Ewrop. Oherwydd gwyntoedd cryfion 45 milltir yr awr a'r glaw trwm dim ond rhan gyntaf yr her, sef y weiren leiaf, a wnaed gan y t卯m ar y diwrnod. Ond cawsant fynd yn 么l yn rhad ac am ddim ar ddiwrnod arall i gwblhau rhan olaf a hiraf yr her, sef y weiren fawr filltir o hyd a all gyrraedd cyflymder o dros 90 milltir yr awr.
Dr Mike BeckettMeddai Dr Mike Beckett, Pennaeth yr Ysgol Cemeg,
"Dwi ddim yn si诺r sut llwyddodd y t卯m yn y swyddfa i fy argyhoeddi bod hwn yn syniad da! Dwi ddim yn hoff iawn o uchder a gyda'r gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm roedd mynd ar y weiren fach yn gamp ynddo'i hun. Diolch yn fawr iawn i d卯m Gwlad Zip Eryri a ofalodd amdanom mor dda, gwnaed pob un o'r gwiriadau diogelwch yn hollol drylwyr a oedd o gymorth i'r rhai ohonom oedd yn nerfus am wneud yr her.
鈥淩ydym yn ddiolchgar iawn i berchnogion y weiren wib am adael i ni gwblhau'r her ar ddiwrnod arall yn rhad ac am ddim a hefyd am eu proffesiynoldeb a'u cymorth wrth drefnu ac ymgymryd 芒'r her. Roedd gweithwyr y weiren wib yn wych."
Mae'r t卯m eisoes wedi llwyddo i godi dros 拢1,200.
Os hoffech gyfrannu at yr elusen deilwng hon ewch i dudalen Just Giving y t卯m Cemeg: http://www.justgiving.com/ChemistryZipWireChallenge
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2013