Hoffter o ddeifio鈥檔 arwain at yrfa newydd
Mandy KnottCymhwyster 么l-radd o Brifysgol 黑料不打烊 oedd yr allwedd i Mandy Knott gael ei phenodi i swydd bwysig a diddorol - a鈥檌 chyntaf mewn gyrfa newydd.
Mae gan Mandy鈥檙 dasg bwysig o weithio ar fesur deddfwriaethol a fydd yn sicrhau rheolaeth a chadwraeth pysgodfa cocos a chregyn gleision Bae Morecambe.
Mae 鈥榥 cysylltu 芒 phawb sydd yn ymwneud 芒鈥檙 bysgodfa ac yn paratoi Gorchymyn Pysgodfa a fydd yn rheoli鈥檙 bysgodfa trwy drwyddedu pobol sy鈥檔 hel cocos yn y Bae. Mae鈥檔 gwneud hyn ar ran Pwyllgor Pysgodfeydd M么r y Gogledd Orllewin, yn Carnforth. Pwyllgorau Pysgodfeydd M么r yw鈥檙 cyrff sy鈥檔 gyfrifol am reoli a rheoleiddio鈥檙 diwydiant pysgota o gwmpas arfordir gwledydd Prydain.
Tipyn o dasg i Mandy yw hon, ond mae鈥檔 un y mae鈥檙 cyn hyfforddwr gyrru鈥檔 awchu amdani.
Mandy Knott (dde) (MSc Diogelu Amgylchedd M么r, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol 黑料不打烊) yn cynnal ymchwil rheoli pysgodfeydd cregynbysgod ym Mae Morcambe efo cydweithiwr o Bwyllgor M么r y Gogledd Orllewin.鈥淢ae鈥檔 gyfnod diddorol i fod yn gweithio i Bwyllgorau Pysgodfeydd M么r. Maent yn derbyn mwy o gyfrifoldebau cadwraethol, felly mae鈥檔 gyfnod cynhyrfus i fod yn rhan ohono, ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cynnig swydd barhaol,鈥 meddai.
Dechreuodd Mandy ddeifio sgwba yn 1997, heb sylweddoli y byddai鈥檙 hobi newydd yn arwain at yrfa newydd. Fel roedd ei diddordeb mewn deifio鈥檔 cynyddu, roedd yn gwirfoddoli ar ddeifiau arolygu cadwraethol, a sylweddoli ei bod angen rhagor o wybodaeth.
Dechreuodd arni drwy astudio am radd mewn Bioleg M么r a Rheoli Rhanbarthau Arfordirol, ac roedd yn medru cynnal ei hun drwy roi gwersi gyrru. Ond sylweddolodd Mandy ei bod mewn maes cystadleuol dros ben ac y byddai angen cymhwyster arall i ddod i鈥檙 amlwg. Arweiniodd hyn at Radd MSc mewn Diogelu Amgylchedd M么r yn Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol 黑料不打烊.
鈥淩oeddwn wedi cwrdd 芒 phobol a oedd wedi graddio o鈥檙 Ysgol trwy fy ngweithgareddau deifio, ac felly roeddwn yn ymwybodol o鈥檙 enw da sydd i鈥檙 Ysgol.
鈥淩oedd y cwrs yn un cynhwysfawr ac roedd yn rhoi i ni鈥檙 holl sgiliau yr oeddem eu hangen, gan ein paratoi ar gyfer amrywiol swyddi yn y maes,鈥 meddai.
Aeth Mandy i Ffair Cyrsiau 脭l-radd, lle cafodd gyfle i drafod y cwrs roedd am astudio, ac i ddod i adnabod cyfarwyddwr y cwrs a gweld yr adnoddau.
鈥淩hoddodd y Ffair gyfle i mi gwrdd 芒鈥檙 staff a thrafod fy opsiynau wyneb yn wyneb. Cadarnhaodd fy mhenderfyniad i wneud cais,鈥 meddai. Roedd hi hefyd yn awyddus i ddangos ei brwdfrydedd, ac roedd yn ddigon ffodus i ennill lle ar gwrs a oedd yn cael ei gyllido gan NERC, sef Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Cynhelir y Ffair Cyrsiau 脭l-radd nesaf ddydd Gwener 18 Chwefror 2011 rhwng 12.30-2.30. Gellwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad wrth fynd i wefan y Brifysgol:
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2011