Hyfforddiant Cemeg am ddim i unigolion a chwmn茂au yn ardaloedd Interreg
Gall unigolion a chwmn茂au mewn siroedd yng ngogledd a gorllewin Cymru gael hyfforddiant am ddim mewn amrywiaeth o bynciau'n gysylltiedig 芒 chemeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 dros y 12 mis nesaf.
Mae amser yn werthfawr a chynlluniwyd yr hyfforddiant gan gadw hyn mewn cof. Mae gan yr Ysgol Cemeg amrywiaeth o gyrsiau sy'n addas i bawb. Cynhelir y cyrsiau mewn naill ai sesiwn ddwys dau neu dri diwrnod neu mewn nifer o unedau dysgu byr wedi eu rhannu dros un semester ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Meddai Dr Hongyun Tai o'r Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊, sy'n cydgysylltu'r cyrsiau, "Mae'r modiwlau achrededig yn addas i gwmn茂au bach a chanolig ac unigolion sy'n gweithio neu'n dymuno gweithio mewn diwydiannau ar draws meysydd cemeg, gwyddorau bywyd a gwyddorau deunyddiau. Mae'r modiwlau yn ffordd wych i weithwyr gael mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus gan eu bod wedi'u hachredu'n llawn ac yn galluogi dysgwyr i ennill credydau cydnabyddedig tuag at gymwysterau ffurfiol."
Cynhelir y cyrsiau o fis Medi 2013, maent ar lefel isradd ac 么l-radd ac yn cynnwys pynciau fel cemeg mewn bywyd bob dydd, iechyd a diogelwch yn y labordy, a sgiliau ymchwil. Ceir pynciau mwy arbenigol hefyd i gwmn茂au sy'n gweithio gyda deunyddiau ffarma neu polymerig neu sy'n dymuno symud at weithio gyda deunyddiau o'r fath.
Mae gwybodaeth lawn am y cyrsiau ar gael yn
Rhaid i unrhyw gwmni neu unigolyn a hoffai wneud cais am fodiwl lenwi ffurflen gais ar-lein
Mae'r cyrsiau ar gael drwy'r project Rhwydwaith Sgiliau Gwyddonol Cymru Iwerddon (WINSS) (www.winss.org), sydd wedi ei gyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy'r rhaglen INTERREG IVA 2007-13 Cymru Iwerddon.
I gael rhagor o fanylion cysylltwch 芒:
Dr Hongyun Tai yn yr Ysgol Cemeg, Prifysgol 黑料不打烊
Ffordd Deiniol, 黑料不打烊, LL57 2UW DU
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2013