Is-ganghellor i gynnal lansiad prosiect 鈥楨conomi Werdd鈥 Ysgol Busnes 黑料不打烊
Ar Ddydd Llun, Hydref y 17eg 2011, cynhelir lansiad prosiect GIFT Ysgol Busnes 黑料不打烊. Prosiect yw GIFT sydd yn gyfrwng sefydlu fforwm draws ffiniol i helpu twf a chynhaliaeth 鈥渆conomi werdd鈥 mewn rhyngbarthau penodol yng Nghymru ac Iwerddon.
Partneriaeth yw GIFT rhwng Prifysgol 黑料不打烊, Sefydliad Technolegol Waterford yn Iwerddon, a Choleg Prifysgol Dulyn. Bwriad y prosiect yw i gyfoethogi sgiliau busnesau, mentrau cymdeithasol a鈥檙 sector gyhoeddus yng Nghymru ac Iwerddon. Ariannwyd Project GIFT gan y Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) trwy raglen Iwerddon Cymru (INTERREG4A).
Prif ffocws y cynllun 鈥楨conomi Werdd鈥 yw gweithgareddau economegol technegol eu naws yn ymwneud a鈥檙 amgylchedd, newid hinsawdd, ynni a rheoli gwastraff; a gweithgareddau busnes megis twristiaeth, sydd yn gwneud defnydd o鈥檙 amgylchedd ac a all ehangu drwy wasanaethau a chynnyrch newydd.
Yr Athro John Hughes (Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊), Dr Gareth Griffiths o鈥檙 Ysgol Fusnes a Dr Morag McDonald o鈥檙 Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn gyfrifol am yr achlysur. Ymhlith y siaradwyr gwadd bydd Gareth Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Drafnidiaeth ac Economi Llywodraeth Cymru a Wendy Boddington, Pennaeth Polisi Ynni Cynaliadwy Gogledd Cymru. Yn ogystal bydd cyflwyniad hefyd gan Jonathan Derham o Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd Iwerddon.
Cynhelir y lansiad o 7 o鈥檙 gloch ymlaen ar Ddydd Llun, Hydref yr 17eg 2011, yn Nh欧 Menai (Technium CAST), Parc Menai, 黑料不打烊. Ni fydd rhaid talu ond mae鈥檔 hanfodol cofrestru - i gofrestru trwy safle we eventbrite.
Ceir gwybodaeth bellach am brosiect GIFT o .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2011