Is-Ganghellor i ymddeol ym mis Awst 2019

Mae Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yr Athro John G. Hughes, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol fis Awst nesaf ar 么l naw mlynedd wrth y llyw.
Yn rhyfeddol, dim ond saith Is-Ganghellor sydd wedi bod yn holl hanes y Brifysgol, dros 135 o flynyddoedd, a bydd y Brifysgol yn hysbysebu'n fuan am olynydd i鈥檙 Athro Hughes.
Meddai Marian Wyn Jones, Cadeirydd Cyngor Prifysgol 黑料不打烊: "Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Athro Hughes am ei gyfraniad rhyfeddol. Mae wedi goruchwylio dros newid sylweddol yn y Brifysgol, ac mae wedi sicrhau bod myfyrwyr yn parhau wrth wraidd bopeth a wnawn."
Dan arweinyddiaeth yr Athro Hughes, cafwyd nifer o ddatblygiadau newydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 gan gynnwys Pentref Myfyrwyr newydd gwerth 拢38m ar safle鈥檙 Santes Fair, y bartneriaeth gyntaf erioed rhwng Cymru a Tsieina i sefydlu coleg newydd yn y wlad honno, sefydlu Parc Gwyddoniaeth Menai gwerth 拢20m, agor Canolfan Morol Cymru gwerth 拢5.5m ym Mhorthaethwy a oedd yn rhan o'r prosiect SEACAMS gwerth 拢25 miliwn, yn ogystal 芒 chwblhau prosiect Pontio gwerth 拢50 miliwn.
Prifysgol 黑料不打烊 oedd y gyntaf yng Nghymru i dderbyn gradd 'Aur' yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd, gan adlewyrchu'r safonau addysgu rhagorol sydd i鈥檞 cael yn y brifysgol. Roedd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf hefyd yn cydnabod bod mwy na thri chwarter o ymchwil 黑料不打烊 naill ai'n flaenllaw yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Yn fwy diweddar, ehangwyd arbenigedd ymchwil y Brifysgol ym meysydd gwyddor deunyddiau a modelu rhagfynegol mewn cydweithrediad 芒 Imperial College London, a ffurfio Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mangor gyda 拢6.5m o raglen S锚r Cymru y Llywodraeth.
Daeth yr Athro Hughes i Fangor ym mis Medi 2010. Magwyd ef yn Belfast, ac mae ei gefndir academaidd ym meysydd mathemateg a ffiseg ddamcaniaethol.
Yn dilyn cyfnodau ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast ac yn yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol yn Fienna, fe鈥檌 penodwyd yn Athro Peirianneg Systemau Gwybodaeth, ac yn ddiweddarach yn Ddeon ac yna'n Ddirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil) ym Mhrifysgol Ulster rhwng 1991 a 2004. Fe'i penodwyd yn Llywydd Prifysgol Maynooth yn 2004, cyn symud i Fangor yn y man.
Bydd yr Athro Hughes yn aros yn y Brifysgol tan Haf 2019, pan y disgwylir i鈥檞 olynydd gymryd yr awenau.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2018