Is-Ganghellor yn rhoi esiampl i eraill trwy gael cymhwyster Cymraeg uwch
Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Canghellor Prifysgol 黑料不打烊 yn llongyfarch yr Is-ganghellor John G Hughes ar gyrraedd safon Defnyddio鈥檙 Gymraeg: UwchMae Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yr Athro John G Hughes, wedi cyrraedd carreg filltir arall ar ei daith yn dysgu Cymraeg, gan ennill gradd A yn yr arholiad Defnyddio鈥檙 Gymraeg: Uwch (sydd gyfwerth 芒 lefel A), a hynny mewn cwta pedair blynedd.
Yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon, penodwyd yr Athro John G. Hughes yn Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 yn 2010 ac addawodd ar unwaith y byddai鈥檔 dysgu Cymraeg.
Llongyfarchodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Canghellor y Brifysgol, yr Athro John G Hughes ar ei lwyddiant gan ddweud:
鈥淵n ystod ei gyfweliad ar gyfer y swydd Is-ganghellor addawodd yr Athro John Hughes y byddai鈥檔 dysgu Gymraeg at safon rhugl iawn. Mae ei lwyddiant yn bleser mawr i mi, ac yn gosod esiampl i bobl eraill sy鈥檔 cael eu penodi i swyddi cyhoeddus yng Nghymru.鈥
Mae ennill y cymhwyster yn nodi bod yr Is-Ganghellor wedi cyrraedd safon uchel iawn. Mae cyrraedd y safon hon mewn pedair blynedd yn dangos gwaith caled ac ymroddiad i ddysgu鈥檙 iaith.
Dywedodd yr Athro John G Hughes:
鈥淢ae'r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o ethos Prifysgol 黑料不打烊. Rwyf wedi mwynhau dysgu'r iaith yn fawr ac yn gobeithio y bydd fy mhrofiad yn anogaeth i ddysgwyr eraill.鈥
Dysgwyd yr Athro John G Hughes gan diwtoriaid Canolfan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol 黑料不打烊.
Meddai Elwyn Hughes, Uwch Diwtor-Drefnydd a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan yngl欧n ag ymroddiad yr Is-ganghellor i ddysgu鈥檙 iaith:
鈥淢ae鈥檙 Is-Ganghellor wedi mynd ati鈥檔 gydwybodol iawn i ddysgu Cymraeg yn 么l ei addewid ac wedi cyrraedd safon hynod o uchel mewn amser byr. Gall yn awr drafod amrywiaeth eang o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae ganddo eirfa helaeth ac mae wedi darllen llawer o lyfrau heriol. Ar hyn o bryd, mae鈥檔 darllen Chwalfa gan T. Rowland Hughes yn barod i fynd i weld cynhyrchiad agoriadol Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi鈥檙 Brifysgol. Y peth pwysig yn awr yw ei fod yn cael digon o gyfleoedd i ymarfer ei sgiliau, felly dylai siaradwyr Cymraeg gofio cyfathrebu gyda鈥檙 Is-ganghellor trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob achlysur o hyn ymlaen.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2014