Iwan Bala yn ymuno 芒 myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Iwan Bala yn siarad efo myfyrwyr Celf Gain, John Lloyd a Gay WilkinsonRoedd Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol 黑料不打烊 yn falch o gyflwyno arlunydd enwog i鈥檞 myfyrwyr yn ddiweddar. Ymunodd Iwan Bala 芒鈥檙 myfyrwyr celf gain ddydd Gwener 11 Mawrth i roi darlith gynhwysfawr ar ei waith, ac wedi hynny bu鈥檔 arwain gweithdy gyda myfyrwyr celf gain i ddatblygu'r them芒u a nodwyd yn y ddarlith, yn arbennig y syniad o greu map mewn ymateb i syniadau o hunaniaeth, o le ac o ddiwylliant. Y themau hyn sydd wedi bod yn brif ganolbwynt i waith Bala fel arlunydd ac awdur.
Mae Bala, cyn aelod o鈥檙 gr诺p Beca, wedi meithrin diddordeb ei gynulleidfa mewn materion diwylliannol a gwleidyddol Cymreig trwy ymestyn ei waith i gynnwys ysgrifennu, darlithio, gweithredaeth a chydweithredu, gan danategu hyn oll gyda phroses luniadu sy'n rhyddhau'r dychymyg ac yn mynd i'r afael 芒 delweddau er mwyn cyfathrebu syniadau.
Yn ei 鈥榙disgrifiad swydd鈥, mae Bala鈥檔 dweud 鈥淥herwydd fy nghefndir neilltuol, magwyd ynof ymdeimlad o gyfrifoldeb at barhad a chadwraeth yr iaith Gymraeg. Disgwylir i鈥檙 Cymry Cymraeg gymryd rhan weithredol yn y diwylliant, trwy eisteddfodau lleol a chenedlaethol, neu drwy'r capel, neu yn ddiweddarach trwy brotestio dros yr iaith. Roeddem yn teimlo, fel ein rhieni o鈥檔 blaenau, bod hyn yn hanfodol gan fod ein diwylliant dan fygythiad o weld ei iaith yn diflannu. O鈥檙 1960au ymlaen, bu ymdeimlad ychwanegol o anghyfiawnder a dicter.鈥
Cafodd y myfyrwyr gyfle i ailddyfeisio eu hanes personol eu hunain a鈥檜 myfyrdod ar hunaniaeth a hanes yn ystod y gweithdy prynhawn yn y stiwdios newydd yn adeilad Hiraethog. Cafodd Bala gyfle i siarad 芒 phob myfyriwr yn unigol ac roedd yn hynod o garedig yn ei sylwadau ar waith pawb.
Maen Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol 黑料不打烊, yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau celfyddyd gain ar draws gogledd Cymru. Mae鈥檙 cyrsiau鈥檔 cael eu dysgu gan d卯m o arlunwyr adnabyddus wrth eu gwaith. Os ydych chi eisiau 'mynd i rywle' gyda'ch gwaith celf, neu efallai eich bod yn arlunydd sydd angen syniadau newydd a mewnbwn creadigol, cysylltwch ag Annie Davies ar 01248 372475 neu ewch i鈥檔 gwefan am wybodaeth bellach am ein cyrsiau.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2011