Lansio cwrs gradd newydd ar faes yr Eisteddfod
Yng nghanol bwrlwm bore dydd Mawrth ar faes yr Eisteddfod eleni, lansiwyd cynllun gradd newydd gan Ysgol y Gymraeg, sef Cymraeg Proffesiynol. Wedi ei ddatblygu ar y cyd 芒 Chanolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol, Canolfan Bedwyr, agorwyd y lansiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS.
Yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi flwyddyn nesaf, mae鈥檙 rhaglen newydd yn cyflwyno modiwlau megis 鈥極鈥檙 Senedd i鈥檙 Swyddfa鈥, 鈥業aith Gwaith鈥 am y tro cyntaf a bydd cyfleoedd hefyd i fyfyrwy
Yr Athro Jerry Hunter, Dr Lowri Hughes, Alun Cairns AS, Yr Athro Gerwyn Wiliamsr gael cyfnodau o brofiad gwaith 芒 sefydliadau a busnesau lleol. Yn ogystal 芒 derbyn hyfforddiant ymarferol ac astudio agweddau galwedigaethol megis cyfieithu a chynllunio ieithyddol, bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i astudio llenyddiaeth Cymru hyd at y presennol gan roi iddynt gydbwysedd rhwng y traddodiadol a鈥檙 ymarferol.
Yn llywio鈥檙 lansiad ar stondin y Brifysgol oedd Yr Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, a ddywedodd:
鈥淩hwng holl draddodiad academaidd Ysgol y Gymraeg a phrofiad ymarferol cyfoethog Canolfan Bedwyr, bydd y radd newydd hon, yn cynnig mynediad ardderchog i farchnad waith y Gymru sydd ohoni.鈥
Ategwyd hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, a ddywedodd:
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd cael lawnsio cwrs gradd newydd Prifysgol 黑料不打烊, Cymraeg Proffesiynol. Mae鈥檔 amlwg fod y cwrs hwn yn ymateb i鈥檙 galw gan gyflogwyr am sgiliau Cymraeg unigryw ac addas ar gyfer y gweithle. Mae鈥檔 brawf rhyfeddol o le a safle鈥檙 Gymraeg heddiw a phriodol iawn yw lansio Cymraeg Proffesiynol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.鈥
Ceir mwy o wybodaeth am y cwrs newydd hwn yma.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2016