Lansio Elevate Cymru
Ieuan Wyn Jones AC Ynys M么n yn trafod efo'r Athro Phil Molyneux, Pennaeth Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a'r Gyfraith
Rhaglen ddysgu seiliedig ar waith yw Elevate Cymru sy鈥檔 rhoi cyfle i gyflogwyr a gweithwyr fanteisio ar gyrsiau wedi eu hariannu鈥檔 llawn i hybu twf a chynaliadwyedd. Yn ystod y lansiad, bu tri phrif siaradwr yn annerch cynulleidfa oedd yn cynnwys dros 100 o bobl. Cynhaliwyd nifer o weithdai blasu hefyd.
Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, a groesawodd lansiad Elevate Cymru fel 鈥榗yfnod cyffrous i鈥檙 brifysgol鈥.
Yn ei anerchiad, dywedodd yr Athro John Hughes:
鈥淢ae hwn yn amser cyffrous i鈥檙 Brifysgol. Rydym yn ymwneud ag addysg bellach a busnesau fwy nac erioed. Mae strategaeth gyffredin yn cael ei datblygu yng Nghymru trwy brifysgolion yn cydweithio gyda鈥檌 gilydd a chyda colegau. Mae鈥檙 strategaeth yn ein galluogi i weithio'n fwy effeithiol gyda鈥檙 gymuned busnes a鈥檜 cynorthwyo i ddysgu sgiliau newydd.鈥
Roedd AC Ynys M么n, Ieuan Wyn Jones, hefyd yn siarad yn ystod y lansiad a chanmolodd Elevate Cymru fel 鈥榩roject sy鈥檔 dod 芒 chyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymru鈥.
Disgrifiodd economi Cymru fel 鈥渕archnad anodd a chreulon i gystadlu ynddi.鈥 Ac aeth ymlaen i ddweud:
鈥淓r mwyn aros ar y blaen, mae鈥檔 rhaid bod yn arloesol. Mae鈥檔 rhaid i fusnesau ddarparu nwyddau a gwasanaethau y mae pobl eisiau eu prynu, ond mae'n rhaid iddynt hefyd feddu ar sgiliau marchnata da, rheolaeth ariannol gadarn ac arweinwyr cryf.
鈥淢ae llawer o fusnesau鈥檔 brin o鈥檙 amser a鈥檙 capasiti sydd eu hangen i wella sgiliau eu gweithwyr, felly mae'n rhaid i ni gynorthwyo ein prifysgolion a'n colegau i greu cysylltiadau gyda busnesau er mwyn mynd i'r afael 芒 hyn. Nid y llywodraeth sy鈥檔 creu swyddi, busnesau sy鈥檔 creu swyddi a gall Elevate Cymru helpu busnesau i fod yn arloesol.
鈥淢ae鈥檙 economi鈥檔 ddynamig bob amser. Rydym yma i fanteisio ar gyfleoedd newydd neu grebachu a bydd Elevate Cymru yn gymorth i ddatblygu sgiliau鈥檙 gweithlu. Bydd Elevate Cymru鈥檔 llwyddo yn y pen draw os gall greu mwy o swyddi a mwy o swyddi gyda chyflogau gwell. Mae鈥檔 rhaid i fusnesau dyfu a chreu mwy o gyfoeth trwy fod yn fwy slic, yn gyflymach ac yn fwy creadigol.鈥
Dywedodd David Sullivan, Pennaeth yr Ysgol Dysgu Gydol Oes, mai diben Elevate Cymru yw ymwneud gyda busnesau a darparu鈥檙 cyrsiau a鈥檙 sgiliau maent yn gofyn amdanynt, yn hytrach na鈥檙 rhai mae prifysgolion neu golegau yn credu sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd Sarah Ellwood, Cyfarwyddwr Gweithredol Supertemps, asiantaeth cyflogaeth sydd 芒 swyddfeydd ym Mangor a Bae Colwyn, bod y ffaith iddi gofrestru gyda LEAD Cymru wedi ei helpu i drawsnewid ei busnes. Croesawodd Elevate Cymru fel 鈥榗am naturiol ymlaen鈥 fydd o fudd i arweinwyr busnes a gweithwyr.
Dywedodd Bill Farnell, arweinydd project 黑料不打烊, bod y lansiad wedi bod yn 鈥榣wyddiant ysgubol鈥.
Meddai: 鈥淩ydym wedi cael ymateb gwych gan y busnesau a ddaeth i鈥檙 digwyddiad ac roedd y lansiad yn llwyddiant ysgubol o safbwynt y busnesau a th卯m Elevate Cymru.
鈥淢ae llawer o鈥檙 perchnogion busnes a鈥檙 gweithwyr rwyf wedi siarad 芒 hwy wedi dweud bod dull unigryw Elevate Cymru yn caniat谩u i fusnesau fanteisio ar hyfforddiant wedi ei gyllido鈥檔 llawn ledled Cymru oherwydd bod pob prifysgol yng Nghymru yn cydweithio ar y fenter. Roedd perchnogion busnesau a gweithwyr yn teimlo y byddai o fudd mawr iddynt gofrestru ar y rhaglen. Yn wir, mae o leiaf 16 o鈥檙 bobl yma heddiw wedi mynegi diddordeb mewn ymuno ag Elevate Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd mwy fyth yn cofrestru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf."
Un o鈥檙 perchnogion busnes yw Marina Kogan, hyfforddwraig broffesiynol ym Mae Colwyn.
Wrth s么n am Elevate Cymru, dywedodd: 鈥渕ae rhoi gymaint o gefnogaeth i fusnesau lleol yn syniad da iawn.
鈥淢ae鈥檔 amlwg mai'r prif amcan yw rhoi sgiliau a chymorth ymarferol i fusnesau allu cynyddu eu cynhyrchiant. Gydag amrywiaeth mor eang o fanteision, mae鈥檔 sicr y bydd yr elw ar y buddsoddiad o gofrestru gyda鈥檙 rhaglen yn uchel.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2012