Lansio Llyfryddiaeth Llafar Gwlad
Fel rhan o broject y cynllun Mynediad i Radd Meistr mewn partneriaeth rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 黑料不打烊 a Gwasg Carreg Gwalch, lluniodd Si么n Pennant Tomos lyfryddiaeth Llafar Gwlad - cylchgrawn chwarterol sy鈥檔 rhoi sylw i l锚n gwerin, crefftau, cymeriadau, iaith lafar a hiwmor gwlad.
Caiff Llyfryddiaeth Llafar Gwlad ei lansio am 12.30 ddydd Mawrth 7 Awst yn stondin Prifysgol 黑料不打烊 ar y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd y gwaith ar gael yn electronig 鈥 ar ffurf ffeil PDF 鈥 i鈥檞 lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar wefan Gwasg Carreg Gwalch. Felly, ni fydd disgwyl i neb estyn am na phwrs na waled yn ystod y lansiad hwn!
Meddai Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch:
鈥淐ylchgrawn a dyfodd o blith cymdeithas o bobl oedd yn rhannu鈥檙 un diddordebau yw Llafar Gwlad, ac mewn awyrgylch o鈥檙 fath mae anffurfioldeb yn beth hollol naturiol 颅 rhannu鈥檙 deunydd ac ysgogi eraill i gofio, casglu a rhannu fu鈥檙 nod. Ond ambell dro, mae鈥檔 werth edrych yn 么l dros y gwaith yn ogystal 芒 phalu ymlaen. Mae bron ddeng mlynedd ar hugain o rifynnau yn golygu ei bod hi鈥檔 anoddach nag oedd hi i daro ar yr union rifyn er mwyn cael ailflasu ysgrif neu gadarnhau rhyw stori neu鈥檌 gilydd. Ond dydi creu rhestrau ddim yn rhan o anian cyfranwyr y cylchgrawn hwn 颅 a dyna fendith fawr oedd cael llafur trylwyr a defnyddiol Si么n Pennant Tomos sy鈥檔 rhestru pob cyfraniad yn 么l enw鈥檙 awdur. Clamp o waith a chlamp o gymwynas.鈥
Yn ychwanegol at Wasg Carreg Gwalch, mae Ysgol y Gymraeg wedi creu projectau ar y cyd gydag Antur Nantlle, Barn Cyf., Amgueddfa Lechi Cymru/Amgueddfeydd Cymru, Canolfan Dreftadaeth Cae鈥檙 Gors, Canolfan Ysgrifennu T欧 Newydd/Llenyddiaeth Cymru, Cwmni Da Cyf., Cyngor Llyfrau Cymru, Gwasg y Bwthyn, Rondo Media Cyf. a鈥檙 Lolfa Cyf.
鈥淢ae staff Adran y Gymraeg ym Mangor wedi cyfrannu erioed i fywyd diwylliannol Cymru a hynny drwy weithgareddau diwylliannol y tu hwnt i furiau Coleg a Phrifysgol. Mae'r cynlluniau ATM a KESS yn rhoi cyfle i ni gydweithio gyda phartneriaid allanol mewn ffordd fwy strategol. Maen nhw'n profi fod cyflogwyr yn gweld budd mewn cydweithio gyda'r byd academaidd, a bod y Gymraeg fel pwnc yn arwain at brofiadau gwych i fyfyrwyr yn y gweithle - dyma bwnc sy'n pontio'n gwbl naturiol rhwng profiadau myfyrwyr mewn prifysgol a byd gwaith. Roedd cael cydweithio gyda Gwasg Carreg Gwalch ar y project hwn yn brofiad gwerthfawr iawn i ni fel adran academaidd a i Si么n," meddai鈥檙 Athro Peredur Lynch, Pennaeth Ysgol y Gymraeg.
Mae鈥檙 cynllun Mynediad i Radd Meistr, ynghyd 芒 chynlluniau KESS, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar brojectau MA a PhD mewn cydweithrediad 芒 chwmn茂au neu gyrff eraill, a hynny dan nawdd rhaglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012