Lansio Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg yn yr Eisteddfod
Fel rhan o鈥檜 sesiwn ar Arloesi ar gyfer Technolegau Iaith a鈥檙 Cyfryngau Digidol brynhawn dydd Llun yn yr Eisteddfod, bydd yn lansio eu project newydd, Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg.
Bydd y project yn gosod y sylfeini ar gyfer amrediad o dechnolegau cyfathrebu yn Gymraeg, gan gynnwys trawsgrifio, rheoli teclynnau, a chyfieithu lleferydd i leferydd. Bydd hyn yn ysgogi datblygiad pecynnau meddalwedd a gwasanaethau Cymraeg newydd, ac yn prif-ffrydio鈥檙 Gymraeg mewn pecynnau cyfathrebu 鈥 y rhyngrwyd pethau鈥, meddalwedd cwestiwn ac ateb, ac amgylcheddau amlieithog.
Cyn bo hir felly, bydd hi鈥檔 bosib i chi siarad Cymraeg gyda鈥檆h set deledu ac offer eraill sy鈥檔 ymateb i lais, a bydd modd i chi ofyn cwestiynau i鈥檆h ff么n clyfar, a chael yr ateb ar lafar hefyd. Ariannwyd y project gan Lywodraeth Cymru drwy eu Cronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg.
Bydd y sesiwn yn yr Eisteddfod hefyd yn rhoi cyfle i bobl glywed am y datblygiadau diweddar gyda thechnoleg a鈥檙 Gymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Yn eu plith mae ychwanegu Geiriadur Termau鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol at yr Ap Geiriaduron poblogaidd. Mae lluniau, diagramau a diffiniadau ar gael yn hwn, ac mae ynddo bellach dros 100,000 o gofnodion.
Un o gynnyrch eraill arloesol yr Uned fydd yn cael ei ddangos fydd y system gyfieithu CyfieithuCymru. Hon yw鈥檙 unig system sydd ar gael sy鈥檔 delio鈥檔 benodol gyda鈥檙 Gymraeg. Mae鈥檔 cynnwys Cysill fel rhan annatod ohoni, elfen o fras-gyfieithu awtomatig, a chof cyfieithu parod. Mae鈥檔 dod yn fwyfwy poblogaidd gan sefydliadau cyhoeddus sydd eisiau gwneud y defnydd gorau o鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf.
Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant y 31 cyfieithydd proffesiynol sydd wedi astudio modiwlau cyfieithu 么l-radd yn rhan amser ym Mangor y llynedd ac eleni dan y cynllun TILT. Enillodd 18 ohonynt Dystysgrif 脭l-radd Astudiaethau a Thechnoleg Cyfieithu, ac mae鈥檙 gweddill hanner ffordd yno. Mae hwn yn gymhwyster sydd wedi鈥檌 gynllunio鈥檔 arbennig ar gyfer cyfieithwyr sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant, ac wedi鈥檌 deilwra鈥檔 benodol ar gyfer anghenion gweinyddiaeth ddwyieithog Cymru.
Mae croeso mawr i bawb ddod i鈥檙 sesiwn hon ar stondin Prifysgol 黑料不打烊, am 4 brynhawn Llun y 3ydd o Awst ar stondin Prifysgol 黑料不打烊 ar faes yr Eisteddfod, ac i鈥檙 derbyniad wedyn.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2015