Lleisiau merched y Mabinogi: ymateb creadigol un o Gymry America
Margaret LloydMae chwedlau canoloesol y Mabinogi yn parhau i ennyn chwilfrydedd efrydwyr llenyddiaeth yng Nghymru a thrwy鈥檙 byd i gyd. Mae鈥檙 corff eang o ysgolheictod sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 chwedlau yn parhau i dyfu a deil eu gallu i danio ymatebion creadigol ymhlith beirdd ac ysgrifenwyr i fod mor gryf ag erioed.
Yn ei chyfrol ddiweddar o gerddi, Travelling on My Own Errands: Voices of Women from the Mabinogi (Carreg Gwalch, 2017), mae鈥檙 bardd Cymreig-Americanaidd Margaret Lloyd wedi cynhyrchu un o鈥檙 ymatebion creadigol mwyaf ysgubol ac eang i gymeriadau benywaidd y Mabinogi. Yn dra phriodol, disgrifiwyd y gyfrol fel a ganlyn gan y beirniad a鈥檙 ysgolhaig Marged Haycock:
鈥淵 mae鈥檙 casgliad hwn o safon uchel. Mae Margaret Lloyd yn feistr ar ei chyfrwng, yn gynnil ac yn gall wrth ein tywys drwy guddfeddyliau ac emosiynau鈥檙 gwahanol gymeriadau. Ni ellid gwell man cychwyn na鈥檙 Pedair Cainc ar gyfer project fel hwn, na gwell hebryngydd ar y daith.鈥
Gan ganolbwyntio ar ddeunydd cyfareddol y gyfrol hon, bydd Margaret Lloyd yn darllen ei cherddi ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar ddydd Mercher 5 Gorffennaf am 6.00 p.m. Cynhelir y digwyddiad yn Ystafell Seminar y Gymraeg.
Cafodd Margaret Lloyd, sy鈥檔 Athro Emeritus yng Ngholeg Springfield, Massachusetts, ei geni yng Nghymru a鈥檌 magu yn Utica. Travelling on My Own Errands: Voices of Women from the Mabinogi (Carreg Gwalch, 2017) yw ei phedwaredd gyfrol o gerddi.
Bydd y darlleniad yn Saesneg
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2017