Llongyfarch Athro'r Flwyddyn
Llongyfarchiadau i un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊, Llew Davies, sydd newydd ennill teitl , prif wobr ei broffesiwn.
Cafodd Llew Davies ei ddisgrifio fel un o'r athrawon hynny mae disgyblion yn eu cofio am weddill eu hoes. Graddiodd Llew gyda gradd B Add o鈥檙 Brifysgol yn 2003, ac yn ddiweddar, fe鈥檌 benodwyd yn Ddirprwy Brifathro Ysgol Cae Top, 黑料不打烊.
鈥淢ae鈥檙 ffaith bod Llew wedi ennill gwobr genedlaethol o bwys yn dod 芒 chlod i鈥檙 Brifysgol ac i鈥檙 cwrs hyfforddi cynradd. Mae鈥檔 wych gweld athro sydd wedi hyfforddi efo ni yn llwyddo i鈥檙 fath raddau. Mae Llew wedi parhau i gadw mewn cysylltiad efo鈥檙 Brifysgol ers iddo raddio, ac yn cydweithio efo staff mewn sawl ffordd. Mae鈥檔 fentor i athrawon sy鈥檔 hyfforddi yn ei ysgol ac yn dod a disgyblion i weithdai yn yr Ysgol Addysg. Mae ei ddisgyblion, o dan ei orychwiliaeth, wedi cael llwyddiant wrth ennill cystadleuaeth F1 cynradd sy鈥檔 cael ei threfnu gan ein Canolfan Dylunio a Thechnoleg,鈥 meddai Janet Pritchard, Pennaeth yr Ysgol.
"Mae'n athro digri, neis iawn, sy' bob amser yn gwneud i ni chwerthin," meddai Scott Davies, y disgybl a'i henwebodd.
Mae'n athro ymgynghorol gwyddoniaeth, yn enwog am ei arbrofion cyffrous a gwelodd beirniaid y DU dystiolaeth o wers ar losgfynyddoedd a ddiweddodd gan adael staen coch ar y nenfwd.
Cafodd ei fagu ar fferm odro ar Ynys M么n.
Dywedodd y beirniaid: "Roeddem yn teimlo ein bod ym mhresenoldeb athro proffesiynol gwirioneddol ysbrydoledig, effeithiol a thalentog.
"Beth bynnag fyddwch chi'n ei alw, y ffactor X, y waw ffactor, y sbarc - mae o gan Llew!"
"Rydym wedi dod ymhell mewn 12 mlynedd ac yn falch bod enwebiadau 2010 wedi cyrraedd 9,224, sy'n record newydd," meddai Caroline Evans, Prif Weithredwraig y Gwobrau Athrawon.
"Fel o'r blaen, mae'r enillwyr newydd yn llysgenhadon gwych dros y broffesiwn."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2010