Llongyfarch Myfyrwyr ar Eisteddfod lwyddiannus
Llongyfarchwyd y myfyrwyr hynny o鈥檙 Brifysgol a fu鈥檔 weithgar ac yn hynod lwyddiannus wrth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Llwyddodd yr Aelwyd i gyrraedd yr uchelfannau yn y cystadlaethau perfformio canlynol:
Ensemble lleisiol 19-25 oed
Unawd Cerdd Dant
Parti Cerdd Dant (1af)
C么r Merched tri llais
C么r Meibion tri llais (2il)
C么r SATB o dan 40 mewn nifer
C么r SATB dros 40 mewn nifer
Parti Llefaru (2il)
Bu myfyrwyr y Brifysgol a鈥檙 Aelwyd hefyd yn weithgar gyda chystadlaethau eraill, gan gynnwys y cystadlaethau gwaith cartref.
Rhaid hefyd llongyfarch Elen Hughes, sydd newydd gwblhau cwrs TAR o鈥檙 Brifysgol ac a raddiodd o Ysgol y Gymraeg y llynedd, ar gipio鈥檙 goron; Lora Lewis o drydedd flwyddyn Ysgol y Gymraeg ar ddod yn ail, ac Osian Wyn Owen o Aelwyd JMJ, sydd yn astudio yn ei ail flwyddyn yn Ysgol y Gymraeg, a ddaeth yn drydydd.
Hefyd yn yr adran 鈥榞waith cartref鈥, daeth Ceinwen Jones yn gyntaf am addasu sgript, a Lora Lewis yn gyntaf am gyfieithu, ac Arddun Rhiannon Arwel yn ail am y Fedal Ddrama.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i gyn-fyfyriwr Ysgol y Gymraeg, Cedron Si么n, ar gyrraedd cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel!
Daw hyn wedi i Brifysgol 黑料不打烊 gipio鈥檙 Eisteddfod Rhyng-Golegol eleni hefyd.
Croesawodd yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol y newyddion gan ddweud:
鈥淗offwn longyfarch pawb a gymerodd ran yn Eisteddfod yr Urdd. Mae llwyddiant ein myfyrwyr yn yr 糯yl yn tystio i鈥檙 bywyd diwylliannol Cymraeg cyfoethog ac egn茂ol sy鈥檔 gwneud Prifysgol 黑料不打烊 yn lle mor arbennig.鈥
Meddai Gethin Morgan, Ysgrifennydd yr Aelwyd.
鈥淢ae鈥檙 aelwyd wedi cael blwyddyn brysur eleni ac roedd Eisteddfod yr Urdd yn un o鈥檙 gweithgareddau buodd yr aelwyd yn paratoi ar ei chyfer. Wedi i ni ennill yr Eisteddfod Ryng-golegol, trodd ein ffocws at yr Eisteddfod. Braf oedd gweld 60 o aelodau ar y llwyfan yn ystod y c么r mawr a phawb yn ymroi鈥檔 llawn. Rydyn ni鈥檔 ymfalch茂o鈥檔 y ffaith bod ein holl g么rau yn cael ei harwain gan fyfyrwyr y brifysgol sef Huw Harvey, Rebeca Thomas a Liam Evans ac rydyn ni fel aelwyd yn ddiolchgar am eu gwaith caled. Gyda鈥檔 llygaid yn edrych at y dyfodol, rydyn ni鈥檔 barod yn cynllunio at flwyddyn newydd ym Mis Medi.鈥
Mae Aelwyd yr Urdd yn un o鈥檙 gweithgareddau sydd ar gael drwy UMCB, Undeb Myfyrwyr Cymraeg 黑料不打烊, sy鈥檔 ganolbwynt i鈥檙 rhan helaeth o鈥檙 digwyddiadau a鈥檙 gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg a drefnir yn y Brifysgol. Mae UMCB hefyd yn gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd 芒 diddordeb yn yr iaith a鈥檙 diwylliant Cymraeg yn ystod eu cyfnod yma ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017