Llwyddiannau Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019
Y diwrnod gorau erioed yn hanes yr aelwyd.
Mae Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊, wedi cael Eisteddfod yr Urdd nodedig eto eleni, gyda gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl yn cael eu cipio gan yr aelwyd a鈥檌 haelodau.
Mae Dydd Sadwrn yr Eisteddfod yn adnabyddus am gystadlu brwd ac uchel-ei-safon rhwng aelwydydd yr Urdd ac roedd presenoldeb Aelwyd JMJ yn amlwg, gan iddynt lwyddo i ennill medal mewn chwe chystadleuaeth lleisiol ar gyfer gr诺p, parti neu g么r. Profwyd y llwyddiant cyntaf yn y gystadleuaeth Ensemble Lleisiol 14-25 oed - Steffan Dafydd, Ioan Rees, Branwen Roberts, Elain Rhys ac Elin Roberts, gyda threfniant gwreiddiol gan Ioan Rees, myfyriwr Cerdd yn yr ail flwyddyn, o 鈥楳ardi Gras ym Mangor Ucha鈥.
Cipwyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Parti Cerdd Dant 14-25 oed, gyda gosodiad gan un o aelodau鈥檙 parti, Elain Rhys, myfyrwraig Cerddoriaeth ar ei hail flwyddyn.
Daeth y Parti Merched yn gyntaf dan arweiniad Alistair Mahoney, sydd newydd gwblhau gradd mewn Cerddoriaeth, a chyfeiliant gan Elain Rhys.
Daeth y Parti Bechgyn yn gyntaf o dan arweiniad Nerys Wyn Williams gydag Elain Rhys yn cyfeilio unwaith eto. Cyrhaeddwyd y brig gyda pherfformiad angerddol o鈥檙 g芒n wladgarol 鈥楥an y Celt鈥 gan Alaw Meinir Lloyd gyda geiriau Peter Hughes Griffiths a threfniant gan Annette Bryn Parry.
Cipwyd y safle cyntaf ymhob un o gystadlaethau鈥檙 corau. Arweinydd y C么r hyd at 40 llais eleni oedd Steffan Dafydd gyda Catrin Llewelyn yn cyfeilio a chafwyd perfformiad teimladwy er cof am Sioned James, cyn-arweinyddes C么rdydd.
Steffan Dafydd arweiniodd y C么r dros 40 llais i fuddugoliaeth.
Dyma flwyddyn gyntaf Steffan fel arweinydd. Meddai鈥檙 myfyriwr sydd yn ail flwyddyn ei gwrs gradd Cymraeg a Cherdd:
鈥淩oedd ennill y gamp lawn yng Nghaerdydd ar lwyfan byd-enwog yn coroni blwyddyn anhygoel i'r Aelwyd. Hoffwn ddiolch i bawb yn ddiffuant am eu hymroddiad a'u gwaith caled, yn enwedig i'n cyfeilyddion, cyd-arweinwyr ac aelodau'r pwyllgor. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gystadlu yn Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf.鈥
Yn ogystal 芒 llwyddiannau ym maes y corau a鈥檙 part茂on canu, cyrhaeddodd un o raddedigion diweddar y Brifysgol y brig yng nghystadleuaeth Medal y Dysgwyr. Graddiodd Elena Sciarrillo, a gafodd ei magu ar aelwyd Eidaleg-ei-hiaith yn yr Wyddgrug, gyda MA mewn Llenyddiaeth Saesneg y llynedd. Dyfarnwyd Jack Wilson yn ail am y Fedal 鈥 mae Jack yn wreiddiol o Warrington ac yn astudio Cemeg yn y Brifysgol.
Rhaid hefyd llongyfarch Osian Owen ar ddod yn drydydd yng nghystadlaeaeth y Gadair, ac i Caryl Bryn, am gyrraedd y trydydd safle yng nghystadleuaeth y Goron. Mae鈥檙 ddau yn astudio MA mewn Cymraeg ag Ysgrifennu Creadigol.
Bu myfyrwyr y Brifysgol a鈥檙 Aelwyd hefyd yn weithgar gyda chystadlaethau eraill, gan gynnwys y cystadlaethau gwaith cartref:
- Barddoniaeth dan 25 oed - 1af Ceinwen Jones
- Addasu Sgript dan 25 oed - 2il Buddug Watcyn Roberts
- Rhyddiaith dan 25 oed - 3ydd Ceinwen Jones
Cafodd Cai F么n Davies, myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gymraeg, sawl llwyddiant yn yr Eisteddfod eleni. Daeth yn drydydd gyda鈥檙 Ddeuawd Cerdd Dant 19-25 oed gyda Bethan Elin Wyn Owen sy鈥檔 astudio gradd Addysg Gynradd ac yn gyntaf yn y Llefaru Unigol 19-25 oed. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Cai ar gyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Wrth ymateb i鈥檙 llwyddiant diweddaraf yma i Aelwyd JMJ, meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg 黑料不打烊, Gethin Morgan:
鈥淢ae Aelwyd JMJ yn parhau i sicrhau llwyddiannau cenedlaethol ac roedd angerdd yr holl fyfyrwyr yn dyst i鈥檙 hyn y mae鈥檙 Aelwyd, UMCB a Phrifysgol 黑料不打烊 yn ei olygu i鈥檙 myfyrwyr. Mae hi wedi bod yn flwyddyn arbennig iawn i鈥檙 aelwyd a hoffwn ddiolch yn bersonol i鈥檙 criw sydd wedi bod wrth y llyw eleni.鈥
Dywedodd Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiad 芒鈥檙 Gymuned):
鈥淩ydym ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn hynod falch o Aelwyd JMJ. Mae eu llwyddiant mewn cystadleuaeth ar 么l cystadleuaeth yn dyst i ddawn ac ymroddiad y gr诺p arbennig hwn o fyfyrwyr. Mae cymaint o wahanol agweddau ar fywyd cyfoethog cymuned Gymraeg 黑料不打烊, a'r hyn sy'n wych am Aelwyd JMJ yw'r ffaith eu bod nhw'n gallu dangos yr egni diwylliannol hwnnw i weddill y byd.鈥
Daw鈥檙 llwyddiannau hyn wedi i Aelwyd JMJ ennill gwobr genedlaethol yng ngwobrau鈥檙 National Societies Awards 2019, lle dyfarnwyd tlws y 鈥楤est Arts Society鈥 iddynt mewn seremoni wobrwyo a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS).
Dyma ddoleni i鈥檙 cystadlaethau ar YouTube Eisteddfod yr Urdd:
Straeon perthnasol:
Eidales o鈥檙 Wyddgrug yn cipio Medal y Dysgwyr
Llwyddiant a chynabyddiaeth i Aelwyd JMJ
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2019