Llwyddiannau myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 yn Eisteddfod yr Urdd rithiol gyntaf erioed!
Eleni, yn hytrach na'r Eisteddfod yr Urdd arferol, bu'n rhaid addasu ychydig ar y cynllun oherwydd y sefyllfa Covid-19 a chynnal yr Eisteddfod rithiol gyntaf erioed - Eisteddfod T.
Fe wnaeth yr Eisteddfod ddenu dros 6,000 o gystadleuwyr mewn mwy nag 80 o gystadlaethau, gyda myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 yn cipio sawl gwobr.
Cafodd Cai 贵么苍 Davies, myfyriwr yn ei ail flwyddyn 蝉测鈥档 astudio Cymraeg a Hanes, sawl llwyddiant. Daeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth Llefaru dan 25 oed, yn drydydd yn y gystadleuaeth Cerdd Dant dan 25 oed, ac enillodd gwobr y Prif Gyfansoddwr. Mae Cai yn enw cyfarwydd i fudiad yr Urdd, yn 肠测蝉迟补诲濒耻鈥档 llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd ers yn ifanc. Mae hefyd yn un 辞鈥檙 chwech a 蹿耻鈥档 cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel y llynedd, wedi iddo gipi辞鈥檙 wobr gyntaf ym mhrif gystadleuaeth llefaru Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 补鈥檙 Fro 2019.
Daeth Lleucu Arfon, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn 蝉测鈥档 astudio Cymraeg a Cherddoriaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth Cerdd Dant dan 25 oed. Mae Lleucu hefyd wedi bod yn 肠测蝉迟补诲濒耻鈥档 llwyddiannus mewn Eisteddfodau ers sawl blwyddyn.
Cipiwyd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Theatr, Sioe Gerdd a Parodi 19-25 oed gan Mali Elwy, myfyrwraig ar ei blwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, gydag Ioan Rees, myfyriwr trydedd flwyddyn yn yr Ysgol Cerddoriaeth 补鈥檙 Cyfryngau yn ennill yr ail wobr.
Daeth Ioan hefyd yn drydydd yn y gystadleuaeth TheatrDyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2020