Llwyddiant i staff y Gyfraith yn seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Roedd llwyddiant i staff Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 yn gynharach mis yma wrth i ddau aelod derbyn gwobr yn seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Stephen Clear, dde, gyda鈥檙 Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu ac Addysgu), yn y seremoni wobrwyo.Prifysgol 黑料不打烊.
Enillodd myfyriwr PhD Stephen Clear, sydd yn jyglo鈥檌 astudiaethau doethurol gyda swydd fel Swyddog Cynorthwyo Ymchwil Gyfreithiol yn Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (yr ICPS) yr Ysgol, y wobr Athro 脭l-radd y Flwyddyn. Mae Stephen yn dysgu ar y modiwl israddedig 鈥楲egal Skills鈥 ac yn diwtor 么l-raddedig mewn Cyfraith Gyhoeddus, a hefyd yn Gydlynydd Sgiliau Ffug Lys ar gyfer yr Ysgol.
Mynegodd un o鈥檙 enwebiadau ar gyfer Stephen: 鈥淢ae dosbarthiadau Stephen yn addysgiadol a difyr. Mae o鈥檔 gwrando ar ei fyfyrwyr ac yn gwneud ymdrech i wneud ei bwnc ddod i fyw. Eleni, aeth 芒 ni i Lys y Goron Manceinion cyn ein haseiniad ffug lys, a drefnodd i actorion dod i鈥檔 darlithoedd er mwyn gwella ein hyder wrth siarad yn gyhoeddus. Mae ganddo angerdd am yr hyn mae鈥檔 dysgu. Mae ymrwymiad Stephen i鈥檞 swydd yn mynd yn bellach na鈥檙 hyn mae鈥檔 rhoi yn yr ystafell dosbarth. Mae ei ddrws ar agor o hyd ac mae鈥檔 wir gofalu am ei fyfyrwyr鈥.
Casglodd Dr Pedro Telles y Wobr Arloesi am ei ymarferiadau addysgu ac aseiniadau arloesol ar y modiwl 鈥楽tartup Law鈥. Mae鈥檙 modiwl hwn yn anelu i roi profiad ymarferol i fyfyrwyr israddedig o sut beth yw o i weithio fel cyfreithiwr trwy roi nhw mewn ffug senario lle gofynnir iddynt roi ar waith eu sgiliau cyfreithiol. Mae Dr Telles hefyd yn Arbenigwr Cyfraith Caffael i鈥檙 ICPS.
Mae鈥檙 Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, a rhedwyd gan Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 ar y cyd 芒鈥檙 Brifysgol, yn dathlu ymrwymiad a gwaith caled staff addysgu a chynorthwyo 黑料不打烊. Enwebwyd yr holl wobrau gan y myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2013