Llyfr i gwmpasu cerddoriaeth Cymru
Mae project a fydd yn arwain at gyhoeddi cyfeirlyfr awdurdodol o鈥檙 enw Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn cael ei lansio heddiw (1 Awst 2011) ar stondin Prifysgol 黑料不打烊 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Nod y Cydymaith fydd cwmpasu holl gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig.
Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol 黑料不打烊 sy鈥檔 arwain y project, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Fel yr esbonia cydlynydd y prosiect, Dr Pwyll ap Si么n, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gerdd, Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae鈥檙 gyfrol am geisio cynnwys a chyfeirio at bob arddull o gerddoriaeth o鈥檙 cynnar at y cyfoes; o'r traddodiadol i'r modern. Bydd yn cynnwys cofnod manwl ar bob arddull o ganu, o ganu gwerin i ganu pop. Bydd yn rhoi sylw i gantorion, cerddorion, unawdwyr opera a cherddorfeydd ac i ganolfannau, cymdeithasau a gwyliau cerdd sydd wedi bod yn ganolog yn natblygiad cerddoriaeth Cymru. Bydd yn edrych hefyd ar gyfryngau newydd megis traciau sain ar gyfer y sgrin a'r sinema, ac yn y blaen. Yn wir, bydd yn cwmpasu pob math o gerddoriaeth sydd wedi cael ei fwynhau gan glustiau鈥檙 Cymry, neu鈥檔 cael ei fwynhau ar hyn o bryd.鈥
Bydd Dr Ap Si么n yn cydweithio gydag ysgolheigion, cerddoregwyr, haneswyr, cyfansoddwyr, cerddorion a chymdeithasegwyr mewn rhai o sefydliadau addysg uwch Cymru er mwyn cyflawni鈥檙 Cydymaith - a鈥檙 bwriad yw ei gyhoeddi yn 2013-14.
Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is-ganghellor, Cyfrwng Cymraeg a鈥檙 Gymuned, Prifysgol 黑料不打烊:
鈥楧yma gyhoeddiad blaengar fydd yn cyfuno arbenigedd Prifysgolion a Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, yn arwyddbost amlwg o ymrwymiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i'r maes, ac ar yr un pryd yn adlewyrchu'r ystod eang o ymchwil sydd i'w weld yng Ngherddoriaeth Cymru ar hyn o bryd.鈥
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
鈥淢ae'n holl-bwysig ein bod yn adeiladu corff o waith ysgolheigaidd yn y Gymraeg fel fod gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr y deunyddiau craidd priodol ar gyfer eu gwaith ymchwil o ddydd i ddydd. Edrychwn ymlaen fel Coleg at gydweithio gyda Pwyll ap Si么n a'r tim mewn perthynas 芒'r prosiect pwysig hwn a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig at gynyddu'r corff o gyhoeddiadau Cymraeg.鈥
I ddarganfod mwy am y project cyffrous yma dewch i鈥檙 lansiad ar Stondin Prifysgol 黑料不打烊 ddydd Llun, 1 Awst 2011 am 11am.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011