Llyfr y Flwyddyn 2011
Mae nofelau gan ddau o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg wedi eu cynnwys ar restr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2011.
Mae鈥檙 deg cyfrol Gymraeg ar y rhestr hir eleni yn cynnwys Caersaint, y nofel ddoniol a phoblogaidd gan Angharad Price, a Gwenddydd, a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd i Jerry Hunter.
Mae鈥檙 ddau yn cyd-weithio ar staff Ysgol y Gymraeg ym Mangor, ond mae them芒u eu nofelau yn wahanol iawn.
Ei chariad at dref Caernarfon oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer nofel ddiweddaraf Angharad. Yn y nofel Caersaint - sef yr hen enw ar y dre 鈥 mae鈥檔 dilyn hynt a helynt y prif gymeriad, Jaman Jones, wrth iddo ddychwelyd i鈥檙 ardal yn sg卯l etifeddu t欧 yn y dre.
Mae Caersaint yn cael ei disgrifio fel 鈥榮ylwebaeth ddiefiol ar fywyd tref Gymreig ar ddechrau鈥檙 21ain ganrif鈥, tra mae鈥檙 nofel Gwenddydd yn edrychar effeithiau rhyfel ar unigolyn, teulu a chymdeithas. Mae鈥檙 nofel yn cyflwyno stori ddirdynnol am berthynas milwr o frawd a鈥檌 nyrs o chwaer, ac erchylltra鈥檜 profiadau yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd.
鈥淕yda rhyfel yn bla ar ein byd ni o hyd, mae rhywun yn clywed yn aml am y modd y mae Post-Traumatic Stress Disorder yn effeithio ar fywydau milwyr a chyn-filwyr,鈥 meddai Dr Hunter, sy鈥檔 wreiddiol o Ohio yn yr Unol Daleithiau. 鈥淲rth gwrs, nid peth newydd mohono; yn wir, roedd gan y beirdd a鈥檙 stor茂wyr Cymraeg canoloesol ffyrdd o drafod yr un peth.
鈥 Fy mwriad oedd amlygu鈥檙 wedd oesol ar y stori honno drwy鈥檌 gosod mewn cyfnod diweddar 鈥 neu ddiweddarach.鈥
"Pan fydd myfyrwyr yn dod i astudio Cymraeg i Fangor fe fydd yna gyfle gwych iddyn nhw gael eu dysgu gan rai o brif lenorion Cymru,鈥 meddai鈥檙 Athro Peredur Lynch, pennaeth Ysgol y Gymraeg. 鈥淢ae nofelau diweddar Angharad Price a Jerry Hunteryn arwydd o'r bwrlwm creadigol rhyfeddol sydd yna yn Ysgol y Gymraeg ar hyn o bryd. Mae eu llwyddiant nhw hefyd yn dangos fod 黑料不打烊 ar flaen y gad ym maes llenyddiaeth gyfoes."
Fe fydd yr awdur buddugol yn derbyn 拢10,000 gyda鈥檙 rhestr fer i鈥檞 chyhoeddi ym mis Mai- a鈥檙 enillydd i鈥檞 gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012