Louis yn dathlu ei 'radd dosbarth cyntaf!
Yr wythnos hon, mae Louis Rhys Waters, 21, o Bencoed, Penybont ar Ogwr, yn graddio o Brifysgol 黑料不打烊 gyda dosbarth cyntaf mewn Newyddiaduraeth ac Astudiaethau鈥檙 Cyfryngau.
Louis Waters
Dywedodd Louis, 鈥淢ae graddio yn gyflawniad gwych! Er fy mod eisiau ail-fyw鈥檙 tair blynedd ddiwethaf, ni fyddwn yn newid dim.
鈥淩oeddwn yn falch iawn o gael gwybod fy mod yn graddio gyda dosbarth cyntaf. Byswn yn hapus gyda 2:1 ond ar 么l cael A yn fy nhraethawd hir ar newyddiaduraeth ddigidol, roeddwn wrth fy modd.
鈥淓r fy mod yn galw Cymru yn gartref imi, rwyf wedi byw dramor am nifer o flynyddoedd. Cyn dod i Brifysgol 黑料不打烊, roeddwn yn byw yn Sbaen am tua 3 blynedd. Rwyf hefyd wedi byw yn Japan a Singap么r.鈥
Am Fangor, ychwanegodd, 鈥淩oeddwn wedi bwriadu dod am gyfweliad ym Mangor ond doedd ddim yn bosib oherwydd y ffrwydrad folcanig yng Ngwlad yr I芒. Cyn gynted ag y cyrhaeddais Fangor, roeddwn wrth fy modd.
鈥淒igwyddodd un o鈥檙 uchafbwyntiau yn ystod fy nhair blynedd ym Mangor yn ystod fy ail flwyddyn, pan gefais gyfle i gyfweld Amy Lam茅 a Peter Tatchell, dau gefnogwyr hawliau dynol. Hefyd, mi wnes i weithio fel intern ar Real Radio Wales, a oedd yn gyfle i mi weld arferion newyddiadurol mewn lle gwaith.
鈥淩oeddwn hefyd yn aelod o Undod 黑料不打烊 ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 ar 么l dod yn Seneddwr Cyffredinol.鈥
Ar gyfer y dyfodol, ychwanegodd Louis, 鈥淵m mis Medi, byddaf yn astudio gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu, ac ar 么l hynny rwyf yn gobeithio dilyn gyrfa fel newyddiadurwr.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013