M-SParc yn mynd 鈥榓r y l么n鈥
Sefydlwyd , Parc Gwyddoniaeth sy鈥檔 eiddo i Brifysgol 黑料不打烊, er mwyn creu gyrfaoedd gyda chyflogau da yn y rhanbarth, yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg. Y math o yrfaoedd nad ydych yn disgwyl dod o hyd iddynt ar Ynys M么n ac yng Ngwynedd a Chonwy, yn talu鈥檔 dda ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu. Flwyddyn a hanner ers agor ei ddrysau, mae鈥檙 cwmni wedi gwneud cymaint o gynnydd fel ei fod yn mynd ar y l么n!
Felly sut mae mynd ag adeilad ar daith? Dyma鈥檙 Rheolwr Gyfarwyddwr Pryderi ap Rhisiart i esbonio 鈥淓rs Mawrth 1af 2018, pan agorodd yr adeilad, mae M-SParc wedi gweithio鈥檔 galed i lenwi'r Parc gyda 30 o gwmn茂au tenant sydd bellach wedi鈥檜 lleoli yma, ac mae 75% o'r safle wedi鈥檌 lenwi.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydyn ni wedi gallu helpu i ddod 芒 40 o yrfaoedd newydd i'r rhanbarth drwy ein gwaith ni ein hunain a鈥檔 tenantiaid, ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosib fel arall. Hefyd rydyn ni wedi darparu 14 o leoliadau i fyfyrwyr o Brifysgol 黑料不打烊 gyda ni a鈥檙 cwmn茂au tenant, er mwyn helpu graddedigion newydd i fod yn fwy cyflogadwy, ac mae mwy o leoliadau ar y gweill. Mae tenantiaid wedi rhoi cyfle gweithio wrth astudio i un myfyriwr Meistr ac un myfyriwr PhD ac rydyn ni wedi darparu gwaith i brentis oedd yn wynebu risg o fod yn ddi-waith. Hefyd rydyn ni wedi cynnal mwy nag 20 o gynadleddau mawr, gyda'r cynadleddwyr yn dod o鈥檙 byd academaidd a diwydiant, a 15 digwyddiad ar gyfer plant i ysbrydoli plant am wyddoniaeth a thechnoleg.
O blith yr 14 o leoliadau i fyfyrwyr a grybwyllwyd gan Mr ap Rhisiart, mae 4 wedi cael cynnig gwaith llawn amser gyda'r cwmni ble cawsant eu lleoli. Un o'r rhain yw intern Rhyngrwyd Pethau M-SParc, sy鈥檔 helpu ar hyn o bryd gyda datblygu datrysiadau technoleg arloesol ar gyfer y sector amaethyddol.
鈥淩ydyn ni鈥檔 teimlo ein bod ni wir yn cyflawni ein cylch gwaith o sbarduno economi Gwynedd, Ynys M么n a Chonwy. Nid am fod gennym ni adeilad sydd wedi ennill gwobrau y mae pobl eisiau dod iddo mae hyn yn digwydd! Gwaith caled ein t卯m ni sy鈥檔 gyfrifol am hyn, sydd wir eisiau gweld pob tenant yn llwyddo, a gwneud pob digwyddiad yn llwyddiant. Hefyd, ein tenantiaid ni, sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed ar syniadau newydd ac arloesol bob dydd er mwyn datblygu eu cwmn茂au ac ychwanegu gwerth a chyfleoedd gyrfaol at y rhanbarth. A hefyd Prifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 gwneud yn si诺r bod eu myfyrwyr i gyd yn ymwybodol iawn o鈥檙 cyfleoedd sydd ar garreg eu drws, ac yn manteisio arnynt, a bod ein busnes ni鈥檔 elwa o hyn.
Dywedodd Ben Scholes, Prif Weithredwr Papertrail, a ddaeth yn denant M-SParc y llynedd 鈥淵 budd rydyn ni鈥檔 ei gael o M-SParc yw bod gan y bobl sy鈥檔 rhedeg y Parc Gwyddoniaeth y meddylfryd cywir sydd ei angen wrth i chi ddatblygu busnes sydd heb fodoli o'r blaen erioed.鈥 I M-SParc, mae eu hymdrech hwy i helpu tenantiaid i ddatblygu yn talu ar ei chanfed pan mae鈥檙 tenantiaid yma'n dechrau darparu gyrfaoedd ar gyfer y rhanbarth.
Mae M-SParc yn angerddol am sicrhau eu bod yn creu effaith real, a bod y tair sir i gyd yn teimlo eu bod yn elwa o gael Parc Gwyddoniaeth yn y rhanbarth. Nid dim ond cael gofod ffisegol i bobl ddod iddo sy鈥檔 bwysig; mae鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 math o bobl sy鈥檔 heidio i'r gofod i gydweithio ar syniadau, a bod yn rym sy鈥檔 sbarduno i sicrhau bod rhywbeth positif yn digwydd. Mae鈥檙 cwmni eisiau ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am y rhanbarth gyda gobaith, i deimlo鈥檔 falch o ble maent yn byw a gwybod bod cyfleoedd iddynt yma wrth iddynt fynd yn h欧n.
Digwyddiad poblogaidd yn M-SparcI ategu鈥檙 datganiad hwn, mae prosiect blwyddyn yn cael ei gynnal, wrth i M-SParc fynd Ar y L么n. Bydd y daith yn cychwyn ym Methesda ar y 1af o Dachwedd, gan rannu adeilad gyda Partneriaeth Ogwen ar y stryd fawr, ac ar 么l tri mis bydd yn symud i leoliad yng Nghonwy. Mae hwn yn gyfle gwych i siarad gyda chymunedau newydd o bobl, gweithio gyda chynlluniau presennol a gweld ble gall M-SParc ychwanegu gwerth, yn benodol drwy fanteisio i'r eithaf ar y cysylltiadau ag ymchwil academaidd a graddedigion medrus drwy Brifysgol 黑料不打烊.
Dywedodd Meleri Davies, Rheolwr Partneriaeth Ogwen 鈥淩ydyn ni fel Partneriaeth yn gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen. Rydyn ni wedi cymryd rhan yn nigwyddiadau M-SParc yn y gorffennol, gan siarad yn EGNI2018, ac rydyn ni鈥檔 gwybod eu bod nhw鈥檔 rhannu llawer o鈥檔 gwerthoedd ni o ran ffocws ar ynni a charbon isel, eisiau gweithio gyda chymunedau, ac wir yn gobeithio darparu rhywbeth positif i bobl. Mae鈥檔 mynd i fod yn dri mis cyffrous a bydd gennym ni waddol ar y diwedd gobeithio. Po fwyaf o bobl ddaw i mewn i ddefnyddio鈥檙 gofod rydyn ni鈥檔 ei rannu, y gorau, ac mae鈥檔 bleser cael gweithio gydag M-SParc ar hyn.鈥
Mae M-SParc yn awyddus i sicrhau bod y bartneriaeth yn effeithiol, ble bynnag fydd y daith yn mynd 芒 hwy. Nid dim ond cyrraedd yn uchel eu cloch yw'r nod, ac wedyn gadael dri mis yn ddiweddarach i geisio gwneud yr un peth eto. Y bwriad yw cael effaith ar y cymunedau maent yn ymweld 芒 hwy, gan greu meddylfryd busnes entrepreneuraidd gyda鈥檌 ffocws ar y gymuned.
Nododd Sofie Roberts, 鈥楻heolwr Taith鈥 M-SParc 鈥淕obeithio y bydd y gofod creu, a fydd yn dod ar daith gyda ni, yn ysbrydoli pobl i feddwl yn fwy creadigol am eu syniadau busnes. Yr hyn sy鈥檔 digwydd yn aml ar 么l prosiectau fel hyn yw bod y gymuned yn camu i'r adwy, gan gydweithio i gynnal y momentwm ar 么l i鈥檙 prosiect ddechrau. Rydyn ni wedi clywed am bobl yn prynu offer ac yn creu eu gofod creu eu hunain, er enghraifft, ar 么l gweld beth sy鈥檔 bosib.鈥
Mae rhan o鈥檙 prosiect yn cynnwys gofod creu Ffiws, prosiect sy鈥檔 cael ei gyllido gan Arfor. Nododd y Cynghorydd Gareth Thomas, Cyngor Gwynedd 鈥淢ae Rhaglen ARFOR yn brosiect ar gyfer Gwynedd, yn treialu prosiectau arloesol i ddatblygu'r economi leol a hybu'r Iaith Gymraeg. Bydd Ffiws yn gyfle i fynd 芒鈥檙 dechnoleg newydd i leoliadau amrywiol, gan ddatblygu syniadau newydd.鈥
Bydd pobl yn gallu defnyddio鈥檙 gofod i weithio wrth ddesg gan ddefnyddio wi-fi am ddim, mynychu unrhyw un o鈥檙 digwyddiadau busnes niferus a fydd yn cael eu cynnal, o glinigau cynghori i arbrofion gwyddonol ar gyfer plant, ac wrth gwrs creu prototeipiau a phrosiectau prawf yng ngofod creu Ffiws.
Gall y bwriad o greu parc gwyddoniaeth ac ysgogi'r economi wybodaeth swnio fel breuddwyd gwrach ond, ar lefel ddynol, mae M-SParc eisiau dod 芒 gobaith i鈥檙 rhanbarth, tanio uchelgais a bod yn rym sy鈥檔 sbarduno newid a datblygiadau positif. Mae鈥檙 t卯m wir yn angerddol am sicrhau bod gyrfaoedd ar gael, a bod pobl ifanc yn gallu edrych yn falch ar y rhanbarth ble maent yn tyfu i fyny, a theimlo bod rhywbeth i'w cadw hwy yma yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2019