Mae aelod o staff Prifysgol 黑料不打烊 yn y 鈥渢he toughest foot race on earth鈥漼m mis Ebrill
Mae aelod o staff Prifysgol 黑料不打烊 yn paratoi i redeg dros 150 o filltiroedd yn y Sahara mewn ras sydd yn cael ei disgrifio fel 鈥渢he toughest foot race on earth鈥.
Alan gyda'i ferch, Cara, ar ddiwedd Marathon Eryri eleniPenderfynodd Alan Edwards o Gaernarfon, Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol 黑料不打烊, fod yr amser wedi cyrraedd i ymosod ar yr Marathon Des Sables, ar 么l iddo ddarllen erthygl amdano n么l yn 2005. Bydd yn un o 900 o gystadleuwyr sy'n cymryd rhan yn yr her eithafol ym Mis Ebrill a bydd gofyn iddo redeg 156 o filltiroedd mewn 6 diwrnod, a hynny yn niffeithwch y Sahara ym Morocco - mewn tymheredd a all gyrraedd 45 gradd Celsius!
Dywedodd Alan, sydd yn wreiddiol o'r Bala: 鈥淢ae'n rhaid i ni fod yn hollol hunangynhaliol yn ystod y 6 diwrnod gan gario ein holl offer ar ein cefnau mewn rycsac. Mae hyn yn cynnwys bwyd, d诺r, offer coginio, offer cysgu, dillad a phecyn cymorth cyntaf (gan gynnwys pwmp 'anti-venom' rhag ofn i ni gael brathiad gan scorpionau neu nadroedd!) Yr unig gefnogaeth sydd ar gael yw bod y trefnwyr yn gosod pebyll ar ddiwedd pob dydd a bod gwasanaeth meddygol brys ar gael mewn argyfwng.鈥
Mi fydd Alan yn un o 250 o gystadleuwyr o Brydain a fydd yn hedfan i Foroco ddiwedd mis Mawrth ac mae鈥檔 bwriadu gwisgo draig goch ar ei het, gan obeithio denu cystadleuwr arall o Gymru. Mi fydd yn cychwyn y ras ar yr 2ail o Ebrill ac yn gorffen ar y 7fed, ac yn hedfan yn 么l i Gymru ar yr 11eg o Ebrill.
鈥淩oeddwn 芒 diddordeb cymryd rhan ers 2005, ond mae鈥檔 anodd sicrhau lle yn y ras gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Ond ges i鈥檙 鈥榙ewrder鈥 i roi cais fewn yn 2008 a chael lle ar gyfer ras 2011鈥 meddai Alan.
Ychwanegodd: 鈥淵r ysbrydoliaeth oedd gweld os allwn gwblhau鈥檙 fath sialens a gwneud hynny fy hun, yn hytrach na bod yn rhan o d卯m, a gweld os oedd gennyf y cryfder meddyliol i ysgogi fy hun i ymarfer cymaint 芒 gorffen y ras.鈥
Gyda鈥檌 ferch, Cara, ddim ond yn 4 mis oed, mae cael amser i ymarfer cyn y ras wedi bod yn her yn ei hunain, esboniodd Alan.
鈥淩wyf wedi bod yn ymarfer go iawn ers mis Ionawr, hynny yw rhedeg rhwng 50 i 80 milltir yr wythnos. Dwi wedi bod yn ymarfer rhedeg gyda rucsac ar fy nghefn (yn pwyso tua 10kg), rhedeg i gwaith ac yn 么l rhedeg ar dwyni tywod traeth Llanddwyn yn Ynys M么n, a rhedeg oddeutu 50 milltir pob penwythnos.
鈥淢ae hi wedi bod yn anodd iawn cael yr amser i redeg gymaint 鈥 yn enwedig gyda boreau a nosweithiau tywyll 鈥 a鈥檙 tywydd gaeafol/eira ym mis Ionawr! Yn ogystal, mae fy ngwraig a finnau newydd gael hogan fach 鈥 y cyntaf 鈥揅ara, ac mae hyn wedi gwneud hi鈥檔 anodd mynd i redeg am oriau ar 么l gwaith ac ar y penwythnosau 鈥 dwi鈥檔 teimlo fy mod yn esgeuluso fy nyletswyddau fel tad -er bod Bethan yn gefnogol o鈥檙 holl fenter鈥 ac yn meddwl mod i鈥檔 wirion!鈥
Un o鈥檙 sialensiau mwyaf yn ystod y ras bydd ymdopi a鈥檙 gwres, a all gyrraedd 40 gradd. O fis Mawrth ymlaen, mi fydd Alan yn dechrau ymfarfer mewn Siamber Wres sydd ar gael o fewn yrYsgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae arbenigwyr o fewn y Brifysgol wedi ei gynghori i ymarfer ychydig wythnosau cyn y ras i鈥檞 gorff gael cynefino gyda gwres uchel fel a fydd ym Moroco yn ystod y ras.
Her arall yw ceisio sicrhau nad ydw i鈥檔 cael swigod yn y tywod a all gael mewn i鈥檙 esgidiau a bod fel 鈥榮andpaper鈥 yn rhwbio yn erbyn croen y traed. Swigod yw un o鈥檙 prif resymau pam mae cystadleuwyr yn gorfod tynnu allan.
Ond y rhan anoddaf yw rheoli鈥檙 bwyta ac yfed yn ystod y ras. Dywedodd Alan: 鈥淢ae鈥檔 hanfodol mod i鈥檔 bwyta digon o galor茂au i adennill yr hyn 鈥榬wy鈥檔 ei golli wrth redeg 鈥 er mwyn gwneud yn si诺r bod gennai ddigon o egni i barhau. Mae hwn yn gamp anodd ei gael yn iawn 鈥 rhaid cael digon o fwyd a diod addas, ond y mwya鈥 mae rhywun yn ei gario, y tryma鈥 yw鈥檙 rucsac鈥 felly mae鈥檔 anoddach i redeg!鈥
Ar 么l dod yn 么l, mae Alan yn edrych ymlaen at wario mwy o amser gyda Cara a Bethan a rhoi ei draed fyny鈥 tan yr her nesaf!
Mi fydd Alan yn codi arian ar gyfer elusen Mencap a gallwch ei noddi drwy ymweld 芒鈥檌 , neu trwy e-bostio alanbala37@hotmail.com
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011