Mae aelod staff Prifysgol 黑料不打烊 wedi llwyddo i orffen marathon 152 milltir yn niffeithwch y Sahara.
Mae aelod staff Prifysgol 黑料不打烊 wedi llwyddo i orffen 鈥測 ras galetaf ar droed ar wyneb y ddaear鈥 yn niffeithwch y Sahara fis Ebrill.
Mae Alan Edwards, o Gaernarfon, Pennaeth y Gwasanaethau i Fyfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol 黑料不打烊, newydd gyrraedd yn 么l o Foroco lle gorffennodd y Marathon Des Sables 150 milltir. Croesodd y llinell derfyn yn safle 198 allan o 849 o gystadleuwyr. Yn gamp eithriadol, roedd yn safle 74 yn ei gategori oedran, a chododd bron i 拢4,000 ar gyfer Mencap.
Meddai Alan, sy鈥檔 wreiddiol o鈥檙 Bala: 鈥淩oedd gorffen y ras yn deimlad mor wych ac yn emosiynol iawn. Ar 么l dwy flynedd o baratoi a hyfforddi, roedd yn teimlo鈥檔 rhyfedd iawn gorffen yr holl beth ac roedd cael y fedal o amgylch fy ngwddw ar y llinell derfyn yn brofiad bythgofiadwy.
鈥淵 rhan galetaf oedd rhedeg y darn 52 milltir. Doeddwn i erioed wedi rhedeg y fath bellter o鈥檙 blaen, ac mi aeth y tymheredd i fyny i 48 gradd y diwrnod hwnnw. Mi wnes i wir stryffaglio ar 么l cyrraedd y pwynt 40 milltir, ond llwyddais i gario ymlaen鈥r i mi bron iawn 芒 rhoi鈥檙 ffidil yn y to!
鈥淵n ystod y ras gyfan, y peth anoddaf oedd rhedeg mewn tywod a achosodd swigod - mi aeth y ras drwy鈥檙 twyni tywod uchaf ym Moroco. Roedd hi hefyd yn anodd rheoli beth i鈥檞 fwyta a鈥檌 yfed.鈥
Drwy gydol y ras, roedd raid i Alan fod yn hollol hunan-gynhaliol am y 6 niwrnod cyfan, a oedd yn golygu cario popeth roedd arno鈥檌 angen mewn sach teithio. Roedd yn cario bwyd, diod, offer coginio, stwff cysgu, dillad a chit cymorth cyntaf (a oedd yn cynnwys pwmp gwrthwenwyn rhag ofn iddo gael ei frathu gan sgorpion neu neidr!)
Yr unig gymorth a dderbyniodd y rhedwyr oedd gosod pabell ar ddiwedd bob diwrnod, ac roedd yna wasanaethau meddygol brys wrth law hefyd rhag ofn.
Ychwanegodd Alan: 鈥淩oedd yn llawer iawn anoddach nag yr oeddwn i wedi鈥檌 ddisgwyl, ond yn brofiad llawer iawn gwell na wnes i ei ddisgwyl hefyd. Mi wnes i ffrindiau ac roedd cystadleuwyr yn cefnogi鈥檙 naill a鈥檙 llall. Roedd yn brofiad y byddai鈥檔 ei gofio am byth, a鈥檙 peth mwyaf a ddysgais oedd bod gen i鈥檙 p诺er meddyliol i roi fy hun drwy rywbeth a oedd yn artaith ar brydiau.
鈥淔y nghyngor i unrhyw un sy鈥檔 ystyried rhedeg y ras hon fyddai 鈥楶eidiwch 芒鈥檌 Wneud鈥! Na鈥 ddifri, hyfforddwch a gwnewch yn si诺r eich bod chi鈥檔 rhedeg o leiaf 40 milltir y tro. Ar 么l hynny, cymerwch bob milltir fesul un a pheidiwch 芒 meddwl am y ras yn ei chyfanrwydd (152 milltir) neu mi all y cyfan fynd yn ormod i chi鈥檔 feddyliol! Mae鈥檔 hanfodol hefyd eich bod chi鈥檔 cael digon o gyngor am yr hyn i鈥檞 fwyta.
Gyda鈥檌 ferch, Cara yn ddim ond 4 mis oed, doedd cael hyd i amser i hyfforddi ddim bob amser yn hawdd, ac mae Alan yn awr yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda鈥檌 deulu. O ran unrhyw sialensiau yn y dyfodol, ychwanegodd: 鈥淩ydw i wedi addo i鈥檓 gwraig, Bethan, nad ydw i鈥檔 mynd i wneud unrhyw beth mor eithafol am ychydig鈥..ond mae yna ras yn yr Alpau fis Awst 2012 (101 milltir mewn 46 awr) yr ydw i鈥檔 eithaf awyddus i鈥檞 gwneud!鈥
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2011