Mae angen eich Cymraeg arnom!
Mae鈥檙 gwaith i gasglu鈥檙 geiriau a鈥檙 ymadroddion y mae siaradwyr Cymraeg yn eu defnyddio o ddydd i ddydd ar fin cychwyn wrth i ap arbennig gael ei lansio.
Bydd modd i siaradwyr Cymraeg o bob cefndir recordio eu sgyrsiau i fod yn rhan o brosiect, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Nod y prosiect yw datblygu'r casgliad cyntaf erioed ar raddfa fawr o eiriau Cymraeg sy'n cynrychioli'r holl amrywiaeth o iaith fel y mae pobl ar lawr gwlad yn ei defnyddio, gan gynnwys Cymraeg ffurfiol a thafodieithoedd rhanbarthol.
Mae'r prosiect wedi'i arwain gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd ac mae'n dod ag amrywiaeth o gydweithwyr at ei gilydd, gan gynnwys prifysgolion Caerdydd, Abertawe, 黑料不打烊 a Chaerhirfryn; Llywodraeth Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; CBAC; Cymraeg i Oedolion; S4C; BBC; y Lolfa; SaySomethingin.com a Geiriadur y Gymraeg.
Mae rhyddhau'r ap yn garreg filltir sylweddol ym mhrosiect CorCenCC. Mae'r prosiect yn bwysig nid yn unig ar gyfer y Gymraeg, ond hefyd fel modd o recordio a churadu ieithoedd eraill ledled y byd sydd 芒 diffyg adnoddau.
Dr Dawn Knight, o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd, yw arweinydd y prosiect: "Mae prosiect CorCenCC yn chwyldroadol am ei fod yn cael ei yrru gan y gymuned, gan ddefnyddio technolegau symudol a digidol er mwyn galluogi'r cyhoedd i gydweithio arno," meddai. "Ychydig iawn o enghreifftiau sydd o ddefnyddio data corpws sydd wedi'i dorfoli, ac mae hwn yn gyfeiriad newydd i gyd-fynd 芒 dulliau mwy traddodiadol o gasglu data ieithyddol, felly yn hynny o beth mae'r ap ymhlith y cyntaf o'i fath!"
Ychwanegodd Steve Morris, o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe: "Mae'r ap yn ei wneud yn hawdd i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan yn y prosiect, ac yn galluogi pobl i gyfrannu pryd bynnag mae'n gyfleus iddyn nhw, sy'n ei wneud yn brofiad mwy personol o lawer. Drwy wneud siaradwyr eu hunain yn gyfrifol am gyfrannu at y corpws, gallant fod yn sicr mai'r recordiadau mor naturiol a chywir 芒 phosibl o Gymraeg bob dydd fydd yn cael eu rhannu."
Nodwedd ychwanegol o鈥檙 project fydd defnyddio鈥檙 corpws er mwyn datblygu adnoddau ar-lein wedi eu teilwra鈥檔 arbennig er mwyn cefnogi dysgu ac addysgu iaith yng Nghymru, ac yn benodol, i wella geirfa a sgiliau darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Meddai鈥檙 Athro Enlli Thomos o Ysgol Addysg Prifysgol 黑料不打烊, sydd yn cyd-arwain datblygiad yr arfau addysgu:
鈥淏ydd y nodwedd unigryw yma o鈥檙 corpws yn cefnogi myfyrwyr ar bob lefel, wrth ddysgu agweddau ar ramadeg a geirfa. Gan ddefnyddio鈥檙 corpora cyfoethog yma yn uniongyrchol, bydd y deunyddiau dysgu yn adlewyrchu鈥檔 fwy cywir y math o Gymraeg a glywir.鈥
Mae CorCenCC wedi鈥檌 gefnogi gan lysgenhadon blaenllaw gan gynnwys y bardd Damian Walford Davies, y gerddores a chyflwynydd radio a theledu Cerys Matthews, y cyflwynydd, ymchwilydd a chynhyrchydd teledu Nia Parry, a鈥檙 dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens.
Dywedodd Nia Parry: "Bydd CorCenCC yn llywio dyfodol addysgu a dysgu鈥檙 iaith Gymraeg. Bydd yn gyfle i werthfawrogi ein hiaith hynafol, farddonol, gyfoethog, arbennig ni. Byddwn yn dysgu am sut rydym yn strwythuro brawddegau, treigladau, geiriau sathredig, ieithwedd negeseuon testun ac ebost, sut rydym yn talfyrru, beth a ddywedwn a sut rydym yn ei ddweud.
"Bydd y corpws yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol, ac yn fy marn i mae鈥檙 gwaith hwn o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol, nid yn unig yn ieithyddol ond fel cofnod o鈥檔 hanfod ni fel cenedl a鈥檔 lle yn y byd."
Ychwanegodd Nigel Owens: "Bydd y corpws yn cynnwys enghreifftiau o鈥檙 Gymraeg ym mhob parth: o'r cae rygbi a鈥檙 stiwdio deledu, i areithiau gwleidyddol a gwerslyfrau academaidd. Bydd gan ddysgwyr, geiriadurwyr, darlledwyr a phob un ohonom sy'n defnyddio'r iaith bob dydd gofnod o鈥檙 iaith fel y鈥檌 defnyddir o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn ein helpu i weld sut mae鈥檙 Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y Gymru sydd ohoni. "
Mae'r ap yn rhad ac am ddim a nawr. Bydd fersiwn Android o'r ap ar gael cyn bo hir.
Ariennir CorCenCC gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2017