Mae dau fyfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊 yn mynd i redeg hyd Iwerddon i godi arian at achos da.
Mae myfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon, Philip Clarke, 21, a Michael O鈥橰eilly, 21, yn ymarfer ar gyfer rhedeg 385 milltir ar draws Iwerddon mewn 13 diwrnod ym mis Gorffennaf. Fe benderfynodd y ddau ffrind wneud y ras, a fydd yn dechrau yn Mizen, county Cork, pwynt mwyaf deheuol Iwerddon ac yn gorffen ym mhen Malin, County Donegal yn y Gogledd, i godi arian at achos da wedi i deuluoedd y ddau gael eu heffeithio gan ganser.
Bu farw mam Michael o ganser yn 2008 ac mae hefyd wedi colli ei fodryb i ganser yr ofari. Cafodd Philip y newyddion fod ei fam hefyd yn dioddef o ganser dros y Nadolig y llynedd ac mae hefyd wedi colli modryb i ganser y fron.
Dywedodd Philip: "Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth i godi arian ar gyfer elusennau canser ac fe benderfynais redeg y ras yma - pan wnes i son wrth Michael roedd o yn awyddus iawn i ymuno a mi.
"Dwi鈥檔 rhedeg y ras i godi arian i鈥檙 ganolfan ganser lleol sydd yn cefnogi fy mam ar hyn o bryd, sef Canolfan Cefnogaeth Gary Kelly yn Drogehda. Mae Michael yn rhedeg i godi arian at ei Ganolfan lleol hefyd, sef Canolfan Shercock/Killann yn County Cavan."
Ychwanegodd Philip: "Mi wnaethom ddechrau ymarfer tuag at ddiwedd mis Chwefror ac mi fyddan yn parhau tan y ras ym mis Gorffennaf. Mi ddechreuom ni鈥檔 rhedeg 20 milltir yr wythnos ac rydym yn cynyddu鈥檙 pellter yn wythnosol gan weithio tuag at redeg 130 yr wythnos erbyn i ni ddechrau鈥檙 ras."
"Rydym hefyd yn gwneud ymarferiadau ymestyn a phwysau. Rydym yn lwcus iawn oherwydd mae ein hadran o fewn Prifysgol 黑料不打烊 yn gefnogol iawn. Mae Dr Stewart Laing o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Chwaraeon yn ein hyfforddi. Mae Phillip Heritage a Sam Coleman, sydd yn astudio yn yr adran, hefyd yn rhoi cefnogaeth seicolegol i ni.
"Mae tri myfyriwr arall, Keith Begley, Donnla O Hagen a Coaimhe Martin, hefyd wedi rhoi llawer o gefnogaeth i ni - meant wedi bod yn help mawr i ni baratoi.
"Gan fod yr un ohonom ni wedi rhedeg marathon o鈥檙 blaen heb son am dros 300 o filltiroedd, mae鈥檙 ras yn hyd yn oed fwy o sialens. Ar hyn o bryd rydym yn gosod targedi tymor byr i鈥檔 gilydd yn hytrach na meddwl am y ras yn ei chyfanrwydd.
"Unwaith fydda ni wedi dechrau鈥檙 ras bydd yn anodd, ond rydw i yn meddwl y gwneith y ddau ohonom ni fwynhau鈥檙 profiad gan ein bod wedi gwneud y gwaith called o flaen llaw. A gyda chefnogaeth pawb dwi鈥檔 si诺r y bydd yn brofiad positif iawn."
I noddi Philip cliciwch yma www.runforcancerireland.com ac i noddi Michael cliciwch yma www.michaelsrunforcancer.com
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2011