Mae Pawb yn Cyfrif
鈥楳ae Pawb yn Cyfrif' yw honiad yr Athro Emeritws Gareth Roberts wrth iddo lansio llyfr gyda'r teitl hwnnw. Mae'n llyfr at ddant pawb - rhai sy'n caru mathemateg yn ogystal 芒 rhai sy'n ei chas谩u!
Thema'r llyfr yw'r cysylltiad rhwng mathemateg a'r diwylliant Cymraeg ehangach. Cyhoeddir y gyfrol gan wasg Gomer, sy'n ei lansio yn y Babell Gwyddoniaeth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg am hanner dydd ddydd Llun, 6 Awst. Cynhelir cyfarfod pellach i drafod ei gynnwys ar stondin Prifysgol 黑料不打烊 yn yr Eisteddfod am ddau o'r gloch bnawn dydd Mawrth, 7 Awst.
鈥淢ae鈥檙 llyfr yn cynnig trafodaeth newydd ac unigryw ar agweddau cyfoes y Cymry at rifau a rhifo.
鈥淧oblogeiddio mathemateg yw fy nod trwy ddangos fod y pwnc difyr hwn yn cyffwrdd pob un ohonom鈥 meddai鈥檙 Athro Roberts
Penodwyd yr Athro Roberts yn Athro Emeritws yn yr Ysgol Addysg ym 2005. Cyn hynny bu鈥檔 Athro Addysg, yn Bennaeth yr Ysgol Addysg ac yn Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae wedi arbenigo mewn addysg mathemateg gan weithio gyda phlant, athrawon a rhieni drwy gydol ei yrfa.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012